Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Owain Roberts
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Yn ei gyfarfod ar 26 Ebrill 2023, derbyniodd y Pwyllgor gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod heddiw. |
||
Cofrestru (09.15-09.30) |
||
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau. Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Cyllid. |
|
(09.30-10.15) |
Adolygiad Annibynnol y Dreth Trafodiadau Tir: cyflwyniad Alma Economics Eleni Kotsira,
Uwch Ymchwilydd Cymdeithasol, Alma Economics Graeme Keay,
Ymgynghorydd, Alma Economics Dogfennau
ategol: FIN(6)-09-23 P1 –
Sleidiau’r cyflwyniad Papur briffio gan
Ymchwil y Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad ar Adolygiad Annibynnol
y Dreth Trafodiadau Tir gan Graeme Keay ac Eleni Kotsira o Alma Economics. |
|
(10.15-10.25) |
Cyllideb Atodol Gyntaf 2023-24: Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol Dogfennau
ategol: FIN(6)-09-23 P2 -
Papur blaen FIN(6)-09-23 P3 -
Amcangyfrif Atodol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2023-24 FIN(6)-09-23 P4 –
Amcangyfrif Atodol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Trafododd y Pwyllgor yr amcangyfrifon atodol gan
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; a Chomisiwn y Senedd. |
|
(10.25-10.30) |
Archwilio Cymru - hysbysu am ddyddiadau cau archwilio Dogfennau
ategol: FIN(6)-09-23 P5 -
Archwilio Cymru - Hysbysiad o derfynau amser archwilio Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Cytunodd y Pwyllgor i aildrefnu’r eitem ar gyfer y
cyfarfod ar 21 Mehefin 2023. |
|
(10.30-10.40) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Ardrethu Annomestig Dogfennau
ategol: FIN(6)-09-23 P6 –
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig FIN(6)-09-23 P7 –
Amserlen Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Ardrethu Annomestig FIN(6)-09-23 P8 -
Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Y Bil Ardrethu
Annomestig FIN(6)-09-23 P9 -
Nodyn cyngor y Gwasanaethau Cyfreithiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol y Bil Ardrethu Annomestig a chytunodd i ysgrifennu at y
Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. |
|
(10.40-10.45) |
Trafod llythyr drafft at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys Dogfennau
ategol: FIN(6)-09-23 P10
– Llythyr oddi wrth Brif Ysgrifennydd y Trysorlys – 5 Mai 2023 FIN(6)-09-23 P11
- Trafod llythyr drafft at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft at Brif
Ysgrifennydd y Trysorlys a’i dderbyn gyda mân newidiadau. |
|
(10.45-10.50) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25: Diweddariad ar ymgysylltu â rhanddeiliaid Dogfennau
ategol: FIN(6)-09-23 P12
– Ymgysylltu â rhanddeiliaid Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y papur ynghylch y digwyddiad i
randdeiliaid. |