Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Owain Roberts 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/02/2022 - Y Pwyllgor Cyllid

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, mae’r Cadeirydd wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu'n fyw ar www.senedd.tv

Rhag-gyfarfod preifat – anffurfiol (10.15-10.30)

(10.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS.

(10.30)

2.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2022.

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2022.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Cafodd y papurau eu nodi.

2.1

PTN 1 – Y wybodaeth ddiweddaraf gan Gomisiwn y Senedd am yr argymhellion a wnaed yn adroddiad y Pwyllgor ynghylch ei waith craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd 2022-2023 – 2 Chwefror 2022

Dogfennau ategol:

2.2

PTN 2 - Ymateb gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yr Ombwdsmon 2020-21; ac Amcangyfrif 2022-23 - 7 Chwefror 2022

Dogfennau ategol:

2.3

PTN 3 - Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - Datganiad Diwygiedig o Fwriad y Polisi - 4 Chwefror 2022

Dogfennau ategol:

2.4

PTN 4 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Gwybodaeth bellach a ddarparwyd gan y Gweinidog yn dilyn y sesiwn craffu ar y gyllideb ar 21 Ionawr 2022 - 8 Chwefror 2022

Dogfennau ategol:

(10.30-11.30)

3.

Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu): Sesiwn dystiolaeth 5

Syr Paul Silk

Yr Athro Emyr Lewis, Ysgol y Gyfraith Aberystwyth, Prifysgol Aberystwyth

 

Dogfennau ategol:

FIN(6)-06-22 P1 – Syr Paul Silk

FIN(6)-06-22 P2 – Yr Athro Emyr Lewis

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Syr Paul Silk; a'r Athro Emyr Lewis, Ysgol y Gyfraith, Aberystwyth, Prifysgol Aberystwyth ar y Bil Deddfau Trethi etc. (Pŵer i Addasu).

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

(11.30-11.45)

5.

Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.