Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Siambr Hywel - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyfeirnod: 327
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 28/01/2026 - Y Cyfarfod Llawn
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr
eitem am 13.30 Gofynnwyd yr 8
cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.17 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 4 a 6
eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Tynnwyd cwestiwn 7 yn ôl. Atebwyd cwestiynau
1 a 3 gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y
pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol I ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder
Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip Cofnodion: Dechreuodd yr
eitem am 15.11 Atebwyd gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.44 Gwnaeth
Samuel Kurtz ddatganiad ar Pen-blwydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn 90 oed
(27 Ionawr 2026). Gwnaeth
Gareth Davies ddatganiad ar 70 mlynedd o Ysgol Glan Clwyd yn Llanelwy, yr ysgol
uwchradd cyfrwng Cymraeg gyntaf yng Nghymru. Gwnaeth
Jane Dodds ddatganiad ar Diwrnod Gweithredu gydag Urddas (1 Chwefror). |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor Dechreuodd yr eitem am 15.49 NNDM9123 Elin Jones (Ceredigion) Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Cyfraith Helen NDM9115 Cefin
Campbell (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi darpariaethau Cyfraith Helen, neu Ddeddf
Carcharorion (Datgelu Gwybodaeth am Ddioddefwyr) 2020 yn ffurfiol, sy'n ei
gwneud yn ofynnol i'r bwrdd parôl ystyried a yw troseddwyr wedi datgelu
lleoliad gweddillion dioddefwr neu wedi nodi dioddefwyr oedd yn blant wrth
wneud penderfyniadau parôl. 2. Yn cydnabod bod y Ddeddf wedi'i chyflwyno yn dilyn
achos Helen McCourt, nad yw ei llofrudd erioed wedi datgelu lleoliad ei chorff,
a bod peidio â datgelu hynny yn parhau i achosi trallod sylweddol a pharhaus i
deuluoedd dioddefwyr. 3. Yn nodi galwadau am
gyflwyno Deddf Helen Rhan 2: Atal Halogi, sy'n ceisio diwygio deddfau claddu a
dedfrydu, gan gynnwys creu trosedd newydd o halogi corff. 4. Yn nodi ymhellach bod darpariaethau tebyg wedi'u
cyflwyno yng Ngogledd Iwerddon drwy Gyfraith Charlotte, gan gynnwys gwneud
cuddio olion dioddefwr yn ffactor gwaethygol statudol wrth ddedfrydu; darparu
cymhellion ar gyfer cydweithredu wrth ddod o hyd i weddillion, a gosod
dyletswydd ar awdurdodau parôl i ystyried achosion o beidio â datgelu. 5. Yn cydnabod bod gweithredu'r mesurau hyn yng Ngogledd
Iwerddon yn dangos bod diwygiadau o'r fath yn gyraeddadwy mewn mannau eraill yn
y DU. 6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi ystyried diwygiadau deddfwriaethol cyfatebol, mewn cydweithrediad â
Llywodraeth y DU, er mwyn cryfhau cyfiawnder a darparu mwy o urddas a
diweddglo i ddioddefwyr a'u teuluoedd. Cyd-gyflwynwyr Cefnogwyr Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.49 NDM9115 Cefin Campbell
(Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi darpariaethau Cyfraith Helen, neu Ddeddf
Carcharorion (Datgelu Gwybodaeth am Ddioddefwyr) 2020 yn ffurfiol, sy'n ei
gwneud yn ofynnol i'r bwrdd parôl ystyried a yw troseddwyr wedi datgelu
lleoliad gweddillion dioddefwr neu wedi nodi dioddefwyr oedd yn blant wrth
wneud penderfyniadau parôl. 2. Yn cydnabod bod y Ddeddf wedi'i chyflwyno yn dilyn
achos Helen McCourt, nad yw ei llofrudd erioed wedi datgelu lleoliad ei
chorff, a bod peidio â datgelu hynny yn parhau i achosi trallod sylweddol a
pharhaus i deuluoedd dioddefwyr. 3. Yn nodi galwadau am
gyflwyno Deddf Helen Rhan 2: Atal Halogi, sy'n ceisio diwygio deddfau claddu a
dedfrydu, gan gynnwys creu trosedd newydd o halogi corff. 4. Yn nodi ymhellach bod darpariaethau tebyg wedi'u
cyflwyno yng Ngogledd Iwerddon drwy Gyfraith Charlotte, gan gynnwys gwneud
cuddio olion dioddefwr yn ffactor gwaethygol statudol wrth ddedfrydu;
darparu cymhellion ar gyfer cydweithredu wrth ddod o hyd i weddillion, a gosod
dyletswydd ar awdurdodau parôl i ystyried achosion o beidio â datgelu. 5. Yn cydnabod bod gweithredu'r mesurau hyn yng Ngogledd
Iwerddon yn dangos bod diwygiadau o'r fath yn gyraeddadwy mewn mannau eraill yn
y DU. 6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi ystyried diwygiadau deddfwriaethol cyfatebol, mewn cydweithrediad â
Llywodraeth y DU, er mwyn cryfhau cyfiawnder a darparu mwy o urddas a
diweddglo i ddioddefwyr a'u teuluoedd. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cysylltedd trafnidiaeth NDM9121 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd cysylltedd trafnidiaeth da i
ffyniant economaidd Cymru. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) adfer y terfyn cyflymder diofyn i 30mya; b) adeiladu ffordd liniaru'r M4; c) uwchraddio'r A55; d) gwneud yr A40 yn ffordd ddeuol; e) darparu trydedd bont dros y Fenai; ac f) dadrewi pob prosiect ffyrdd. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn nodi nad yw Cymru, o dan lywodraethau olynol y DU,
wedi cael cyfran deg o'r buddsoddiad mewn trafnidiaeth, gan gyfyngu ar ei gallu
i wella cysylltiadau a datgloi ei photensial economaidd llawn. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod seilwaitch
trafnidiaeth Cymru'n cael ei ariannu'n deg, yn seiliedig ar anghenion, gan
gynnwys: a) cyllid canlyniadol llawn ar gyfer prosiectau
trafnidiaeth mawr yn Lloegr, gan gynnwys HS2 a Rheilffordd Pwerdy Gogledd
Lloegr; b) rhoi terfyn ar yr hanes o danariannu seilwaith
trafnidiaeth Cymru; ac c) datganoli mwy o bwerau ar gyfer gwneud penderfyniadau
dros fuddsoddi mewn trafnidiaeth i Gymru. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu dull
integredig, yn seiliedig ar dystiolaeth, o fuddsoddi mewn trafnidiaeth sy'n
gwella cysylltiadau rhwng cymunedau, yn cefnogi datblygiad economaidd, ac yn
adlewyrchu cyfrifoldebau amgylcheddol a chymdeithasol Cymru. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pob un ar ôl pwynt 1 a rhoi yn eu lle: Yn cydnabod yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i
gyflawni wrth wella trafnidiaeth: a) datblygu system Fetro o safon fyd-eang yn Ne Cymru
ynghyd â buddsoddiad Llywodraeth Cymru o dros £1 biliwn i wella’r seilwaith ar
gyfer rhwydwaith rheilffyrdd datganoledig llinell graidd y cymoedd; b) buddsoddi £800 miliwn mewn trenau newydd gan bron
ddyblu’r capasiti a sicrhau twf anferthol yn y gwasanaethau i deithwyr; c) dod â’r buddsoddiad mwyaf erioed gan Lywodraeth y DU i
reilffyrdd Cymru ers cyhoeddiad Llywodraeth Lafur ddiwethaf y DU yn 2009 i
drydaneiddio prif linell De Cymru; d) pasio’r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) arloesol i
gyflwyno masnachfreintiau a rhoi pobl cyn elw wrth ddarparu gwasanaethau
bysiau; e) denu dwy filiwn o bobl ifanc i deithio ar y bysiau
gyda’r tocyn £1 i bobl ifanc; f) cynlluniau cyffrous ar gyfer tocyn £2 i oedolion a
chynnydd o 10 y cant yn y llwybrau yn y Senedd nesaf; g) cynnal prosiect mawr wedi’i flaenoriaethu ar gyfer
adnewyddu asedau gan ddechrau gyda chynllun cyfnewid gwerth £180 miliwn ar Afon
Dyfrdwy; h) dechrau’r gwaith o glirio’r ôl-groniad cynnal a chadw
ffyrdd sydd heb ei wneud, ar ôl 14 mlynedd o lymder o dan y Ceidwadwyr, gan
wella 627km o arwynebau ffyrdd a llenwi 203,000 o dyllau yn y ffyrdd yn dilyn
hwb o £25 miliwn yn y cyllidebau cynnal a chadw ar gyfer y rhwydwaith ffyrdd
strategol a £60 miliwn (£120 miliwn dros 2 flynedd) i Fenter Benthyca
Llywodraeth Leol i drwsio ffyrdd lleol; i) comisiynu adolygiad o gyflwr ffyrdd a thraffig ar y
prif ffyrdd strategol, megis yr M4, A55 a’r A494 i asesu’r ymyriadau y dylid eu
blaenoriaethu i wella effeithiolrwydd y priffyrdd sy’n gwasanaethu coridorau
economaidd strategol; j) cydweithio ag awdurdodau lleol i ddatblygu’r gallu i
gynllunio trafnidiaeth rhanbarthol, gyda chynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol
newydd a ddatblygir gan Gydbwyllgorau Corfforedig a thros £100 miliwn ar gyfer
eu cyflawni; a k) gweithio gyda’r rhanbarthau i sbarduno momentwm tuag
at ddatblygu “metros” yn y Gogledd a’r De-orllewin. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.30 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y
Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM9121 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig
bod y Senedd: 1. Yn
cydnabod pwysigrwydd cysylltedd trafnidiaeth da i ffyniant economaidd Cymru. 2. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
adfer y terfyn cyflymder diofyn i 30mya; b)
adeiladu ffordd liniaru'r M4; c)
uwchraddio'r A55; d)
gwneud yr A40 yn ffordd ddeuol; e)
darparu trydedd bont dros y Fenai; ac f)
dadrewi pob prosiect ffyrdd.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Dileu
popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn
nodi nad yw Cymru, o dan lywodraethau olynol y DU, wedi cael cyfran deg o'r
buddsoddiad mewn trafnidiaeth, gan gyfyngu ar ei gallu i wella cysylltiadau a
datgloi ei photensial economaidd llawn. Yn
galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod seilwaitch trafnidiaeth Cymru'n
cael ei ariannu'n deg, yn seiliedig ar anghenion, gan gynnwys: a)
cyllid canlyniadol llawn ar gyfer prosiectau trafnidiaeth mawr yn Lloegr, gan
gynnwys HS2 a Rheilffordd Pwerdy Gogledd Lloegr; b)
rhoi terfyn ar yr hanes o danariannu seilwaith trafnidiaeth Cymru; ac c)
datganoli mwy o bwerau ar gyfer gwneud penderfyniadau dros fuddsoddi mewn
trafnidiaeth i Gymru. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu dull integredig, yn seiliedig ar
dystiolaeth, o fuddsoddi mewn trafnidiaeth sy'n gwella cysylltiadau rhwng
cymunedau, yn cefnogi datblygiad economaidd, ac yn adlewyrchu cyfrifoldebau
amgylcheddol a chymdeithasol Cymru. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu
pob un ar ôl pwynt 1 a rhoi yn eu lle: Yn
cydnabod yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gyflawni wrth wella
trafnidiaeth: a)
datblygu system Fetro o safon fyd-eang yn Ne Cymru ynghyd â
buddsoddiad Llywodraeth Cymru o dros £1 biliwn i wella’r seilwaith ar gyfer
rhwydwaith rheilffyrdd datganoledig llinell graidd y cymoedd; b)
buddsoddi £800 miliwn mewn trenau newydd gan bron ddyblu’r capasiti a
sicrhau twf anferthol yn y gwasanaethau i deithwyr; c)
dod â’r buddsoddiad mwyaf erioed gan Lywodraeth y DU i reilffyrdd Cymru ers
cyhoeddiad Llywodraeth Lafur ddiwethaf y DU yn 2009
i drydaneiddio prif linell De Cymru; d)
pasio’r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) arloesol i gyflwyno masnachfreintiau a
rhoi pobl cyn elw wrth ddarparu gwasanaethau bysiau; e)
denu dwy filiwn o bobl ifanc i deithio ar y bysiau gyda’r tocyn £1 i bobl
ifanc; f)
cynlluniau cyffrous ar gyfer tocyn £2 i oedolion a chynnydd o 10 y cant yn y
llwybrau yn y Senedd nesaf; g)
cynnal prosiect mawr wedi’i flaenoriaethu ar gyfer adnewyddu asedau gan
ddechrau gyda chynllun cyfnewid gwerth £180 miliwn ar Afon Dyfrdwy; h)
dechrau’r gwaith o glirio’r ôl-groniad cynnal a chadw ffyrdd sydd heb ei wneud,
ar ôl 14 mlynedd o lymder o dan y Ceidwadwyr, gan wella 627km o arwynebau
ffyrdd a llenwi 203,000 o dyllau yn y ffyrdd yn dilyn hwb o £25 miliwn yn y
cyllidebau cynnal a chadw ar gyfer y rhwydwaith ffyrdd strategol a £60 miliwn
(£120 miliwn dros 2 flynedd) i Fenter Benthyca Llywodraeth Leol i drwsio ffyrdd
lleol; i)
comisiynu adolygiad o gyflwr ffyrdd a thraffig ar y prif ffyrdd strategol,
megis yr M4, A55 a’r A494 i asesu’r ymyriadau y dylid eu blaenoriaethu i wella
effeithiolrwydd y priffyrdd sy’n gwasanaethu coridorau economaidd
strategol; j)
cydweithio ag awdurdodau lleol i ddatblygu’r gallu i gynllunio trafnidiaeth
rhanbarthol, gyda chynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol newydd a ddatblygir gan
Gydbwyllgorau Corfforedig a thros £100 miliwn ar gyfer eu cyflawni; a k)
gweithio gyda’r rhanbarthau i sbarduno momentwm tuag at ddatblygu “metros” yn y
Gogledd a’r De-orllewin. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: Cynnig

Gogledd a’r De-orllewin.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Tai NDM9122 Heledd
Fychan (Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod cyflwr tai yng Nghymru ymhlith y gwaethaf
yn Ewrop. 2. Yn cydnabod effaith sylweddol tai gwael a'r argyfwng
tai ehangach ar iechyd y cyhoedd, costau byw, tlodi tanwydd, a'r amgylchedd. 3. Yn credu bod angen ffocws clir, traws-lywodraethol ar
gyfer gweddill tymor y Senedd hwn i gael gwared ar rwystrau a chynyddu'r
cyflenwad o gartrefi cymdeithasol newydd, mewn ymateb i ddigartrefedd cynyddol,
rhestrau aros hir, y defnydd uchel o lety dros dro, a chostau rhentu
anfforddiadwy. 4. Yn cydnabod y manteision niferus o wella safonau tai,
gan gynnwys costau aelwydydd is, creu swyddi, cefnogaeth i economïau lleol,
arbedion i'r GIG, a chynnydd wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) gweithredu argymhellion y Tasglu Tai Fforddiadwy ar
gyflymder a darparu diweddariad cynhwysfawr; b) nodi sut y bydd yn addasu ei rhaglenni ôl-osod a'r
cynllun Trechu Tlodi Tanwydd wedi i ECO4 ddod i ben, colli sgiliau ôl-osod
lleol, a newidiadau i gynllun Warm Homes Llywodraeth y DU; ac c) amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer dyrannu'r cynnydd
disgwyliedig i gyllideb Llywodraeth Cymru o ganlyniad i ymrwymiadau Llywodraeth
y DU yn ystod y cyfnod adolygiad gwariant hwn. Tasglu Tai Fforddiadwy: adroddiad ac argymhellion 1. Yn cydnabod bod Cymru yng nghanol argyfwng tai. 2. Yn gresynu bod llywodraethau olynol yng Nghymru wedi
methu ag adeiladu digon o gartrefi newydd i ymateb i'r galw. 3. Yn cydnabod y manteision sy'n gysylltiedig â bod yn
berchen ar gartref. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud Cymru yn
ddemocratiaeth perchnogion cartrefi drwy wneud y canlynol: a) diddymu treth trafodiadau tir ar bob prif gartref; b) adfer yr hawl i brynu yng Nghymru, gan ail-fuddsoddi'r
hyn a enillir drwy werthiannau mewn tai mwy fforddiadwy; c) adeiladu mwy o gartrefi oes sy'n hygyrch ac y gellir
eu haddasu i bobl o bob oedran a gallu drwy gydol eu bywydau; d) dod â mwy o gartrefi gwag yn ôl i ddefnydd; ac e) ymestyn ac ehangu'r cynllun cymorth i brynu i bob
prynwr tro cyntaf. Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pob un a rhoi yn eu lle: Cynnig bod y Senedd yn: Croesawu’r diwygiadau deddfwriaethol dewr ac uchelgeisiol
a geir yn y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) i gefnogi’r nod
tymor hir o ddod â digartrefedd i ben. Cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £540
miliwn dros dymor presennol y Senedd i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yng
Nghymru, a bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £98 miliwn arall ar gyfer y
rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio i wella cartrefi cymdeithasol yn 2026-27. Croesawu Cynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth y DU ac yn
nodi bwriad Llywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth i gael y gorau o
effeithiau’r ymyriadau a’r buddsoddiad a ddaw o’r cynllun, i wella canlyniadau
i bobl Cymru. Cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £2
filiwn mewn tai cymdeithasol gan ddisgwyl darparu 20,000 o dai carbon isel
ychwanegol i’w rhentu yn y sector cymdeithasol erbyn mis Tachwedd. Cydnabod y niwed i’r piblinellau datblygu tai o ganlyniad
i Brexit a mini-gyllideb Liz Truss, a galw ar bob plaid i ymrwymo i raglen
adeiladu tai uchelgeisiol ar draws y sectorau cymdeithasol, preifat a
chanolradd dros dymor nesa’r Senedd a thu hwnt. Croesawu ymrwymiad a chyd-berchenogaeth Llywodraeth Cymru
a’i phartneriaid sectorol wrth roi argymhellion y Tasglu Tai Fforddiadwy ar
waith. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.25 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan
y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM9122 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Cynnig
bod y Senedd: 1. Yn
nodi bod cyflwr tai yng Nghymru ymhlith y gwaethaf yn Ewrop. 2. Yn
cydnabod effaith sylweddol tai gwael a'r argyfwng tai ehangach ar iechyd y
cyhoedd, costau byw, tlodi tanwydd, a'r amgylchedd. 3. Yn
credu bod angen ffocws clir, traws-lywodraethol ar gyfer gweddill tymor y
Senedd hwn i gael gwared ar rwystrau a chynyddu'r cyflenwad o gartrefi
cymdeithasol newydd, mewn ymateb i ddigartrefedd cynyddol, rhestrau aros hir, y
defnydd uchel o lety dros dro, a chostau rhentu anfforddiadwy. 4. Yn
cydnabod y manteision niferus o wella safonau tai, gan gynnwys costau aelwydydd
is, creu swyddi, cefnogaeth i economïau lleol, arbedion i'r GIG, a chynnydd
wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd. 5. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
gweithredu argymhellion y Tasglu Tai Fforddiadwy ar gyflymder a darparu
diweddariad cynhwysfawr; b)
nodi sut y bydd yn addasu ei rhaglenni ôl-osod a'r cynllun Trechu Tlodi Tanwydd
wedi i ECO4 ddod i ben, colli sgiliau ôl-osod lleol, a newidiadau i gynllun Warm Homes Llywodraeth y DU; ac c) amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer dyrannu'r cynnydd disgwyliedig i
gyllideb Llywodraeth Cymru o ganlyniad i ymrwymiadau Llywodraeth y DU yn ystod
y cyfnod adolygiad gwariant hwn.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) 1. Yn
cydnabod bod Cymru yng nghanol argyfwng tai. 2. Yn
gresynu bod llywodraethau olynol yng Nghymru wedi methu ag adeiladu digon o
gartrefi newydd i ymateb i'r galw. 3. Yn
cydnabod y manteision sy'n gysylltiedig â bod yn berchen ar gartref. 4. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i wneud Cymru yn ddemocratiaeth perchnogion cartrefi
drwy wneud y canlynol: a)
diddymu treth trafodiadau tir ar bob prif gartref; b)
adfer yr hawl i brynu yng Nghymru, gan ail-fuddsoddi'r hyn a enillir drwy
werthiannau mewn tai mwy fforddiadwy; c)
adeiladu mwy o gartrefi oes sy'n hygyrch ac y gellir eu haddasu i bobl o bob
oedran a gallu drwy gydol eu bywydau; d)
dod â mwy o gartrefi gwag yn ôl i ddefnydd; ac e)
ymestyn ac ehangu'r cynllun cymorth i brynu i bob prynwr tro cyntaf. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu
pob un a rhoi yn eu lle: Cynnig
bod y Senedd yn: Croesawu’r
diwygiadau deddfwriaethol dewr ac uchelgeisiol a geir yn y Bil Digartrefedd a
Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) i gefnogi’r nod tymor hir o ddod â
digartrefedd i ben. Cydnabod
bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £540 miliwn dros dymor presennol y
Senedd i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yng Nghymru, a bod Llywodraeth
Cymru wedi ymrwymo £98 miliwn arall ar gyfer y rhaglen Ôl-osod er mwyn
Optimeiddio i wella cartrefi cymdeithasol yn 2026-27. Croesawu
Cynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth y DU ac yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i
weithio mewn partneriaeth i gael y gorau o effeithiau’r ymyriadau a’r
buddsoddiad a ddaw o’r cynllun, i wella canlyniadau i bobl Cymru. Cydnabod
bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £2 filiwn mewn tai cymdeithasol gan
ddisgwyl darparu 20,000 o dai carbon isel ychwanegol i’w rhentu yn y sector
cymdeithasol erbyn mis Tachwedd. Cydnabod
y niwed i’r piblinellau datblygu tai o ganlyniad i Brexit a mini-gyllideb Liz
Truss, a galw ar bob plaid i ymrwymo i raglen adeiladu tai uchelgeisiol ar
draws y sectorau cymdeithasol, preifat a chanolradd dros dymor nesa’r Senedd a
thu hwnt. Croesawu
ymrwymiad a chyd-berchenogaeth Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid sectorol wrth
roi argymhellion y Tasglu Tai Fforddiadwy ar waith. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

roi argymhellion y Tasglu Tai Fforddiadwy ar waith.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. [EE1]Same
as comment above |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr
eitem am 18.23 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM9120 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) Tai cydweithredol -
yr angen am fwy Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.29 NDM9120 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) Tai cydweithredol - yr angen am fwy |
PDF 235 KB