Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyfeirnod: 320 (v3) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/12/2025 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

Datganiad gan y Llywydd

Mynegodd y Llywydd gydymdeimlad ar ran y Senedd â dioddefwyr yr achos o saethu ar draeth Bondi.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

 

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.27

(45 munud)

3.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Lefelau Uwchgyfeirio Sefydliadau’r GIG

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.00

(5 munud)

4.

Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cytundebau Rhyngwladol Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2025

NDM9084 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Caffael 2023 (Cytundebau Rhyngwladol Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Tachwedd 2025.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Ymateb y Llywodraeth i adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.26

NDM9084Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Caffael 2023 (Cytundebau Rhyngwladol Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Tachwedd 2025.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(5 munud)

5.

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2025

NDM9085 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Rhagfyr 2025.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

 

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.30

 

NDM9085 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Rhagfyr 2025.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(30 munud)

Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 6-7 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:

Derbyniwyd y cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 6-7 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân.

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 26C.18 i gytuno y dylai’r Bil Cynllunio (Cymru) fynd rhagddo fel bil cydgrynhoi

NDM9081 Julie James (Gorllewin Abertawe)

 

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26C.18:

Yn cytuno y dylai’r Bil Cynllunio (Cymru) fynd rhagddo fel Bil Cydgrynhoi.

Gosodwyd y Bil Cynllunio (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 15 Medi 2025; gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar y Bil Cynllunio (Cymru) gerbron y Senedd ar 28 Tachwedd 2025.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.36

NDM9081 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26C.18:

Yn cytuno y dylai’r Bil Cynllunio (Cymru) fynd rhagddo fel Bil Cydgrynhoi.

Gosodwyd y Bil Cynllunio (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 15 Medi 2025; gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar y Bil Cynllunio (Cymru) gerbron y Senedd ar 28 Tachwedd 2025.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 26C.18 i gytuno y dylai’r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) fynd rhagddo fel bil cydgrynhoi

NDM9082 Julie James (Gorllewin Abertawe)

 

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26C.18:

Yn cytuno y dylai’r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) fynd rhagddo fel Bil Cydgrynhoi.

Gosodwyd y Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 15 Medi 2025; gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar y Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) gerbron y Senedd ar 28 Tachwedd 2025.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.36

NDM9082 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26C.18:

Yn cytuno y dylai’r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) fynd rhagddo fel Bil Cydgrynhoi.

Gosodwyd y Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 15 Medi 2025; gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar y Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) gerbron y Senedd ar 28 Tachwedd 2025.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(60 munud)

8.

Egwyddorion Cyffredinol y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru)

NDM9086 Huw Irranca-Davies (Ogwr)

 

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru).

 

Gosodwyd y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 29 Medi 2025; gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol ar y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) gerbron y Senedd ar 5 Rhagfyr 2025.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.56 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. 

NDM9086Huw Irranca-Davies (Ogwr) 

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: 

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru). 

Gosodwyd yBil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru)a'rMemorandwm Esboniadolgerbron y Senedd ar 29 Medi 2025;gosodwydadroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol ar y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) gerbron y Senedd ar 5 Rhagfyr 2025. 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig: 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

3

11

50

Derbyniwyd y cynnig. 

 

(0 munud)

9.

Y penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) - Tynnwyd yn ôl

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.68, mae’r Llywydd wedi nodi nad oes angen penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil hwn.

Cofnodion:

Mae'r eitem hon wedi ei thynnu'n ôl. 

(120 munud)

10.

Dadl: Cyllideb Ddrafft 2026-27

NDM9083 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:

Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-27 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg ar 14 Hydref 2025 a 3 Tachwedd 2025.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn credu bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27 yn methu â chyflawni blaenoriaethau pobl Cymru.

 

Dogfennau Ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith

Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai

Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

 

 

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.00 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. 

NDM9083Jane Hutt (Bro Morgannwg) 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12: 

Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-27 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg ar14 Hydref 2025a3 Tachwedd 2025

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn

Gwelliant 1Paul Davies (Preseli Sir Benfro) 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: 

Yn credu bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27 yn methu â chyflawni blaenoriaethau pobl Cymru. 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1: 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

37

50

Gwrthodwyd gwelliant 1. 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig: 

NDM9083Jane Hutt (Bro Morgannwg) 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12: 

Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-27 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg ar14 Hydref 2025a3 Tachwedd 2025

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

13

13

50

Derbyniwyd y cynnig. 

 

 

11.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

The item started at 18.37

 

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: