Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Siambr Hywel - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyfeirnod: 317
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/12/2025 - Y Cyfarfod Llawn
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1 i 4 a 6 i
9. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 8 gan
y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol. Gwahoddodd
y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet a’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.16 Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 1 gan y
Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol. Atebwyd cwestiwn 9 gan y Gweinidog Iechyd
Meddwl a Llesiant. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
|
Pwynt o Drefn Am 15.05, cododd Heledd Fychan bwynt o drefn i fynd i'r
afael â sylw a wnaed gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth
Gymdeithasol mewn ymateb i gwestiynau llefarwyr yn ystod Eitem 1 - Cwestiynau i
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio. |
||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.06 Gwnaeth Elin Jones ddatganiad ar Undeb Amaethwyr Cymru yn
dathlu 70 mlynedd ers ei sefydlu (3 Rhagfyr 2025). Gwnaeth Peredur Owen Griffiths ddatganiad ar 25 mlynedd o
Fenter Iaith yng Nghaerffili (Rhagfyr 2024). Gwnaeth Rhys ab Owen ddatganiad ar 150 o flynyddoedd ers
trychineb Glofa Llan yng Ngwaelod Y Garth (6 Rhagfyr). Gwnaeth Heledd Fychan ddatganiad ar - teyrnged i
Kyle Sieniawski. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Hybu Cig Cymru NDM9067 Andrew
R.T. Davies (Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd yn nodi: Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion
Gwledig ‘Hybu Cig Cymru’, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 3 Medi 2025. Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 26 Tachwedd 2025. Cofnodion: NDM9067 Andrew
R.T. Davies (Canol De
Cymru) Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
‘Hybu Cig Cymru’, a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Medi 2025. Nodyn: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Tachwedd 2025. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Cyd-dynnu, nid tynnu’n groes: Rhaid i Gymru weithredu Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.49 NDM9066 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol:
Cyd-dynnu, nid tynnu’n groes: Rhaid i Gymru weithredu, a osodwyd ar 9 Hydref 2025. Nodyn: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Tachwedd 2025. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro NDM9069 Heledd
Fychan (Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro Llywodraeth
Lafur Cymru, a gyhoeddwyd ar 24 Tachwedd 2025. 2. Yn nodi ymhellach y rhybudd gan Gymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru y byddai’r setliad dros dro yn arwain at gynnydd dramatig yn y dreth
gyngor a’r posiblrwydd o golli miloedd o swyddi. 3. Yn gresynu bod y Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro yn
peri risgiau gwirioneddol i wydnwch gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig mewn
ardaloedd gwledig. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amddiffyn gwasanaethau
rheng flaen a gweithio gydag awdurdodau lleol i ostwng biliau'r dreth gyngor. Datganiad
Ysgrifenedig Llywodraeth Cymru: Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro 2026-27 Ymateb
CLlLC i ymgynghoriad y Pwyllgor Cyllid ar Gyllideb Ddrafft 2026-27 Llywodraeth
Cymru Dileu popeth ar ôl pwynt un a rhoi yn ei le: Yn nodi bod Cyllideb Ddrafft 2026-27 yn darparu refeniw o
£7.6 biliwn i lywodraeth leol drwy'r setliad dros dro a grantiau penodol. Yn nodi cynnig Llywodraeth Cymru i weithio gyda
phartneriaid yn y Senedd i sicrhau Cyllideb Derfynol, sy'n cefnogi llywodraeth
leol ac yn diogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen. Cynigion
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27 Gwelliant 2 Paul
Davies (Preseli Pembrokeshire) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i: a) comisiynu adolygiad annibynnol o fformiwla ariannu
llywodraeth leol yng Nghymru; b) gweithio gyda chynghorau i ddefnyddio eu cronfeydd
wrth gefn defnyddiadwy i gadw'r dreth gyngor mor isel â phosibl; c) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gyngor sy'n cynnig
codiad treth gyngor o 5 y cant neu fwy gynnal refferendwm lleol a chael
pleidlais o blaid cyn gweithredu'r codiad arfaethedig; a d) lleihau biwrocratiaeth llywodraeth leol yng Nghymru er
mwyn ei gwneud yn fwy effeithlon. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.36 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan
y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM9069 Heledd Fychan (Canol De
Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro Llywodraeth Lafur Cymru, a gyhoeddwyd ar 24 Tachwedd 2025. 2. Yn nodi ymhellach y rhybudd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y
byddai’r setliad dros dro yn arwain at gynnydd dramatig yn y dreth gyngor a’r
posiblrwydd o golli miloedd o swyddi. 3. Yn gresynu bod y Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro yn peri risgiau
gwirioneddol i wydnwch gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig mewn ardaloedd
gwledig. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amddiffyn gwasanaethau rheng flaen a
gweithio gydag awdurdodau lleol i ostwng biliau'r dreth gyngor.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu popeth ar ôl pwynt un a rhoi yn ei le: Yn nodi bod Cyllideb Ddrafft 2026-27 yn darparu refeniw o £7.6 biliwn i
lywodraeth leol drwy'r setliad dros dro a grantiau penodol. Yn nodi cynnig Llywodraeth Cymru i weithio gyda phartneriaid yn y Senedd
i sicrhau Cyllideb Derfynol, sy'n cefnogi llywodraeth leol ac yn diogelu
gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais
fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y
gwelliant. Gwelliant 2 Paul Davies (Preseli Sir Penfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i: a) comisiynu adolygiad annibynnol o fformiwla ariannu llywodraeth leol
yng Nghymru; b) gweithio gyda chynghorau i ddefnyddio eu cronfeydd wrth
gefn defnyddiadwy i gadw'r dreth gyngor mor isel â phosibl; c) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gyngor sy'n cynnig codiad treth gyngor
o 5 y cant neu fwy gynnal refferendwm lleol a chael pleidlais o blaid cyn
gweithredu'r codiad arfaethedig; a d) lleihau biwrocratiaeth llywodraeth leol yng Nghymru er mwyn ei gwneud
yn fwy effeithlon. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod
y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
|
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.25 |
||||||||||||||||||||||||||
|
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Dadl Fer: Tom Giffard Ni fydd Dadl Fer Cofnodion: Ni chynhaliwyd Dadl Fer |
PDF 216 KB