Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/07/2020 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

 

(09.30-10.45)

2.

COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Chyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Phrif Weithredwr GIG Cymru

Albert Heaney, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol, y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Briff Ymchwil

Adroddiad Arolwg Interim

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru.

2.2 Cytunodd Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru i roi nodyn i'r Pwyllgor yn rhoi enghreifftiau o fewn llwybr gofal llygaid o weithgareddau a newidiadau sy'n digwydd ledled Cymru i fynd i’r afael â'r ôl-groniad yn y galw am wasanaethau a'r cleifion newydd sy’n dod i mewn i'r system.

 

(11.00-12.15)

3.

COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Chyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru (parhad)

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Phrif Weithredwr GIG Cymru

Albert Heaney, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol, y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cofnodion:

3.1 Parhaodd y Pwyllgor â’i sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru.

 

(12.15)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw.

 

(12.15-12.30)

5.

COVID-19: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12.30-12.45)

6.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol: ystyried y dull gweithredu

 

Papur 1 - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol: ystyried y dull gweithredu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull gweithredu o ran ystyried y Memorandwm. Bydd hyn yn cynnwys cyhoeddi galwad am dystiolaeth ysgrifenedig dros doriad yr haf ac ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am wybodaeth bellach am nifer o bwyntiau.