Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/06/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(9.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

 

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriad gan Dawn Bowden AC.

1.3        Cafwyd ymddiheuriadau gan Angela Burns AC. Dirprwyodd Darren Millar AC ar ei rhan.   

 

(9.30-11.00)

2.

Gwaith craffu cyffredinol: Sesiwn dystiolaeth gyda Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda

Steve Moore, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Joe Teape, Dirprwy Brif Weithredwr / Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Karen Miles, Cyfarwyddwr Cynllunio, Perfformiad a Chomisiynu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Dr Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol a Chyfarwyddwr Strategaeth Glinigol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

 

Briff Ymchwil

Papur 1 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 O ran gofal llygaid, cytunodd y Bwrdd Iechyd i ddarparu’r ffigurau ar gyfer nifer y cleifion sydd wedi colli eu golwg neu sydd â’u golwg wedi gwaethygu o ganlyniad i oedi i gael triniaeth.

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu’n gofyn am wybodaeth am nifer o bwyntiau nad oedd gan yr Aelodau amser i'w trafod yn ystod y sesiwn.

 

(11.10-12.40)

3.

Gwaith craffu cyffredinol: Sesiwn dystiolaeth gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Carol Shillabeer, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Hayley Thomas, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Wyn Parry, Cyfarwyddwr Meddygol, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Rhiannon Jones, Cyfarwyddwr Nyrsio, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

 

Papur 2 – Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.

 

(12.40)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

4.1  Cytunodd y Pwyllgor ar y Cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(12.40-12.50)

5.

Gwaith craffu Cyffredinol ar Fyrddau Iechyd: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Yn ogystal â’r pwyntiau uchod, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn gofyn am ragor o wybodaeth am y mesurau sydd ar waith i ymdrin â'r galw cynyddol am asesu plant yn y gwasanaeth CAMHS, gan gynnwys y rhai sy'n aros yn hwy na'r amseroedd targed.

 

(12.50-13.00)

6.

Hepatitis C: Trafod yr adroddiad drafft (2)

Papur 3 – Hepatitis C: adroddiad drafft (2)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1  Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytuno arno.

 

(13.00-13.05)

7.

Blaenraglen waith

Papur 4 – Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar nifer o gwestiynau i’w hanfon at y Panel Goruchwylio Annibynnol ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth ymlaen llaw cyn iddo ymddangos gerbron y Pwyllgor ar 17 Gorffennaf 2019.