Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Claire Morris
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/11/2017 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
||
(09.30 - 10.30) |
Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) – sesiwn dystiolaeth 4 – Grŵp Ymchwil Alcohol Sheffield, Prifysgol Sheffield John Holmes,
Uwch-gymrawd Ymchwil, Grŵp Ymchwil Alcohol Sheffield Colin Angus,
Cymrawd Ymchwil, Grŵp Ymchwil Alcohol Sheffield Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Grŵp Ymchwil
Alcohol Sheffield. |
|
(10.35 - 11.20) |
Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) – sesiwn dystiolaeth 5 – Y Sefydliad Materion Economaidd Chris Snowdon, Pennaeth Economeg Ffordd o Fyw, Sefydliad
Materion Economaidd Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolydd o'r Sefydliad Materion
Economaidd. 3.2 Cytunodd Chris Snowdon i rannu gyda'r Pwyllgor astudiaethau sy'n
seiliedig ar dystiolaeth yn ymwneud â'r canlyniadau anfwriadol posibl sy'n
deillio o gyflwyno isafbris uned am alcohol, a llwybrau hysbys i ddibyniaeth. |
|
Papurau i’w nodi |
||
Cyllideb Llywodraeth Cymru 2018-19 – llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid at
Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid. |
||
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 – Ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.2a Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi
a Thrafnidiaeth ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19. |
||
Llythyr gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ynghylch trafodaethau manwl ar fframweithiau polisi cyffredin y DU Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Materion Allanol a
Deddfwriaeth Ychwanegol at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ynghylch
trafodaethau manwl am fframweithiau polisi cyffredin y DU. |
||
Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) – Llythyr gan yr Athro Jon Nelson ynglŷn â Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.4a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan yr Athro Jon Nelson mewn perthynas â
Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru). |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(11.30 - 11.45) |
Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) – trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn ystod eitemau 2 a 3 y
cyfarfod. |
|
(11.45 - 12.15) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 – ystyried yr adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân
ddiwygiadau. 7.2 Nododd y Pwyllgor y byddai'r adroddiad yn cael ei osod gerbron y
Cynulliad ar 1 Rhagfyr. |