Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Claire Morris 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/05/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(9.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriad gan Angela Burns AC. Dirprwyodd Nick Ramsay AC ar ei rhan.

(9.30-11.00)

2.

Gwaith craffu cyffredinol: Sesiwn dystiolaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Yr Athro Marcus Longley, Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Allison Williams, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Angela Hopkins, Cyfarwyddwr y Bwrdd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Dr Ruth Alcolado, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

 

Briff ymchwil

Papur 1: Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

2.2 Cytunodd Allison Williams i roi rhagor o wybodaeth am adrodd ar ddigwyddiadau difrifol.

(11.10-12.40)

3.

Gwaith craffu cyffredinol: Sesiwn dystiolaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Tracy Myhill, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Chris White, Prif Swyddog Gweithredu a Dirprwy Brif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Richard Evans, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Sian Harrop-Griffiths, Cyfarwyddwr Strategaeth Gweithredol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

 

Briff ymchwil

Papur 2: Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

3.2 Cytunodd Chris White i roi rhagor o wybodaeth am amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau gofal mewn argyfwng.

(12.40)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

(12.40 - 13.00)

5.

Gwaith craffu cyffredinol ar y Byrddau Iechyd: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.