Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Claire Morris 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/05/2018 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Dywedodd fod Angela Burns AC a Lynne Neagle AC.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: Craffu ar yr Adroddiad Etifeddiaeth

Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

 

Briff Ymchwil

Papur 1 – Adroddiad Etifeddiaeth (Sbarduno Newid i Bobl Hyn)

Papur 2 - Adroddiad Effaith a Chyrhaeddiad 2017-18

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

2.2 Cytunodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru i roi gwybodaeth ychwanegol am y canllawiau diogelu o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

 

(10.30)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(10.30 - 10.40)

4.

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: Craffu ar yr Adroddiad Etifeddiaeth: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(10.40 - 11.30)

5.

Blaenraglen Waith

Papur 3

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith.