Craffu ar Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Craffu ar Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Bydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn craffu yn gyfnodol ar waith Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

 

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru sy'n gyfrifol am y canlynol:

  • hybu ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru;
  • herio gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn yng Nghymru;
  • annog arfer gorau yn y ffordd y caiff pobl hŷn eu trin yng Nghymru; ac
  • adolygu’r cyfreithiau sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru.

 

Nodir pwerau statudol a rôl y Comisiynydd yn Neddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 ac yn Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2007.

 

Mae rhagor o wybodaeth am waith y Comisiynydd ar gael ar wefan y Comisiynydd.

Math o fusnes: Arall

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 27/03/2017