Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 283KB) Gweld fel HTML (141KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17 - sesiwn dystiolaeth gyda Fforwm Gofal Cymru

Mario Kreft, Cadeirydd, Fforwm Gofal Cymru

Mary Wimbury, Uwch Gynghorwr Polisi, Fforwm Gofal Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fforwm Gofal Cymru.

 

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â chamau dilynol o gyfarfod 15 Medi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac ar gyfer eitem 1 o’r cyfarfod ar 3 Tachwedd i baratoi i graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2017/18

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(10.30 - 10.45)

5.

Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17 – trafod y dystiolaeth a roddwyd yn ystod y cyfarfod heddiw ac yn y cyfarfodydd ar 29 Medi a 5 Hydref

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor yr holl dystiolaeth a gafwyd mewn perthynas â'r ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf, a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon cyn y sesiwn dystiolaeth gydag ef ar 17 Tachwedd, yn amlinellu'r prif themâu sy'n codi.

 

(10.45 - 10.55)

6.

Trafod deiseb P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cafodd y Pwyllgor drafodaeth bellach ynghylch Deiseb P-04-682 y Pwyllgor a chytunodd i ysgrifennu at Rwydwaith Diabetes Plant a Phobl Ifanc Cymru i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y camau i wella'r canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â diabetes math 1 yng Nghymru. Cytunodd y Pwyllgor y gallai'r ymateb gan y Rhwydwaith fod yn sail i lythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon.

6.2 Hefyd, nododd y Pwyllgor astudiaeth sy'n mynd rhagddo yn yr Almaen i ystyried a yw rhaglen sgrinio ar gyfer diabetes math 1 yn ymarferol ar draws poblogaeth fawr, a chytunodd i gynnal ymchwiliad byr i adolygu canlyniadau'r astudiaeth pan fydd yn cael ei chwblhau yn 2017.

 

 

(10.45 - 10.55)

7.

Trafod deiseb P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cafodd y Pwyllgor drafodaeth bellach ynghylch Deiseb P-04-532 a nododd fod y Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol i'w adnewyddu yn 2017. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i ofyn am y diweddaraf ynghylch yr amcanion perthnasol a'r camau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd.

 

(10.55 - 11.00)

8.

Trafod y llythyr gan y Pwyllgor Busnes: Yr amserlen ar gyfer Bil Iechyd y Cyhoedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Busnes a nododd yr amserlen arfaethedig.