Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf
Gwybodaeth ddilynol am y parodrwydd ar gyfer gaeaf
2018
Craffodd y
Pwyllgor ar gyrff y GIG a’r ADSS ar eu hymateb i bwysau’r gaeaf y llynedd, a’u
paratoadau ar gyfer y gaeaf nesaf ar 19 Gorffennaf 2018.
Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016-17
Inquiry5
Mae'r gaeaf bob amser yn gyfnod prysur i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Gan adeiladu ar y gwaith a wnaed yn ystod y Pedwerydd
Cynulliad, roedd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn
ystyried pa mor barod oedd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru
ar gyfer y gaeaf.
Cylch gorchwyl yr ymchwiliad
Wrth geisio
sicrwydd bod gan y GIG yng Nghymru yr adnoddau priodol i ymdopi â'r pwysau ar
wasanaethau gofal heb ei drefnu dros y gaeaf sydd i ddod, roedd ymchwiliad y Pwyllgor
yn ystyried:
- y pwysau cyfredol sy'n wynebu gwasanaethau
gofal heb ei drefnu, a pha mor barod yw'r GIG a gwasanaethau cymdeithasol
yng Nghymru ar gyfer y gaeaf 2016/17;
- a fu digon o gynnydd yn y Pedwerydd Cynulliad
o ran lleihau'r pwysau ar ofal heb ei drefnu drwy fynd ati i gynllunio
mewn ffordd integredig ar gyfer y gaeaf ar draws gwasanaethau iechyd,
gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau ambiwlans, a'r gwersi a ddysgwyd;
- y camau gweithredu sydd eu hangen i sicrhau
gwelliannau cynaliadwy i wasanaethau gofal brys ac argyfwng, a'r system
gyfan, gan sicrhau bod GIG Cymru yn datblygu gwydnwch i'r galw tymhorol ac
i wella ei sefyllfa ar gyfer y dyfodol.
Mae'r cylch
gorchwyl wedi cynnwys ffocws ar lif cleifion (gan gynnwys gofal sylfaenol y tu
allan i oriau, gwasanaethau ambiwlans brys, adrannau achosion brys, ac oedi
wrth drosglwyddo gofal).
Casglu tystiolaeth
Mae'r Pwyllgor
wedi ymgynghori ar y pwnc hwn. Mae’r ymatebion wedi’u cyhoeddi.
Adroddiad
Adroddiad
ar yr ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17 (PDF 942KB)
Ymchwiliad
i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17 – casgliadau ac argymhellion (PDF
476KB)
Ymateb
Llywodraeth Cymru – Ionawr 2017 (PDF 589KB)
Dadl yn y Cyfarfod Llawn
Cynhaliwyd y ddadl
yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor ar 1 Chwefror 2017.
Gohebiaeth ddilynol
Llythyr
gan Gadeirydd y Pwyllgor at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a
Chwaraeon – Mehefin 2017 (PDF 296KB)
Llythyr
gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon at Gadeirydd y
Pwyllgor – Gorffennaf 2017 (PDF 322KB)
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/08/2016
Dogfennau
- Llythyr gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a'r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 28 Hydref 2016
PDF 199 KB
- Yr amserlen o ran tystiolaeth lafar
PDF 37 KB Gweld fel HTML (2) 26 KB
- Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17 – casgliadau ac argymhellion
PDF 475 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru
PDF 589 KB
- Cyfyngedig View reasons restricted
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg - 26 Chwefror 2019 (Saesneg yn unig)
PDF 2 MB
- Bwrdd Iechyd Prifsygol Betsi Cadwaladr - 1 Mawrth 2019 (Saesneg yn unig)
PDF 262 KB
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf - 1 Mawrth 2019 (Saesneg yn unig)
PDF 165 KB
- Bwrdd Iechyd Prifsygol Aneurin Bevan - 4 Mawrth 2019 (Saesneg yn unig)
PDF 2 MB
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda - 4 Mawrth 2019 (Saesneg yn unig)
PDF 205 KB
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys - 4 Mawrth 2019 (Saesneg yn unig)
PDF 250 KB
Ymgynghoriadau
- Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17 (Wedi ei gyflawni)