Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Catherine Hunt
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 30/11/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
13.30-14.15 |
Y Grŵp Rhyng-weinidogol ar Dalu am Ofal Cymdeithasol: Briff technegol ar y cyd â’r Pwyllgor Cyllid Matthew Jenkins,
Dirprwy Gyfarwyddwr, Partneriaethau a Chydweithredu Anna Adams,
Dirprwy Gyfarwyddwr, Pennaeth Polisi Strategaeth Treth ac Ymgysylltu Dogfennau ategol:
Cofnodion: 1.1. Cafodd y Pwyllgorau friff technegol ar waith y Grŵp Rhyng-weinidogol ar Dalu am Ofal
Cymdeithasol. |
|
(14.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 2.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a
Chymunedau. 2.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd
ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu
iechyd y cyhoedd. 2.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe
bai'n gadael y cyfarfod am ryw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros
Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. |
|
(14.30-15.45) |
Craffu ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru Sophie Howe,
Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Jacob Dafydd
Ellis, Arweinydd Ysgogi Newid: Materion Cyhoeddus a Rhyngwladol Adroddiad: Comisiynydd
Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru Adroddiad Blynyddol 2019-20 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Sophie Howe, Comisiynydd
Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ·
Jacob Dafydd Ellis, Arweinydd
Ysgogi Newid: Materion Cyhoeddus a Rhyngwladol |
|
(15.45) |
Papurau i’w nodi |
|
Gohebiaeth gan unigolyn ynghylch strydoedd diogelach a chydraddoldeb i bobl anabl - 23 Tachwedd 2020 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd i
ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
ynghylch y materion a godwyd. |
||
(15.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o’r cyfarfod ar 7 Rhagfyr 2020. Cofnodion: 5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(15.45-16.00) |
Craffu ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan
eitem 3 a chytunodd i ysgrifennu at y Comisiynydd i gael ymatebion i gwestiynau
nad oedd yr Aelodau'n gallu eu gofyn. |