Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/02/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiant

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Huw Irranca-Davies AC. Dirprwyodd Jack Sargeant AC ar ei rhan yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

 

(09.30 - 11.00)

2.

Ymchwiliad ar ôl y broses ddeddfu i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015: gwaith dilynol - sesiwn dystiolaeth 3

Jane Hutt AC, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip

Alyson Francis, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Gymunedau, Llywodraeth Cymru

Christine Grimshaw, Pennaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Jane Hutt AC, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip

·       Alyson Francis, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Cymunedau, Llywodraeth Cymru

·       Christine Grimshaw, Pennaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, Llywodraeth Cymru

 

2.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip i ddarparu:

·       Rhestr o gyflawniadau'r Ddeddf ers y sesiwn dystiolaeth ddiwethaf ym mis Tachwedd 2018;

·       Nodyn ar y dangosyddion cenedlaethol, gan gynnwys sut maent yn cael eu mesur, cyfrifoldeb am gyflawni, sut mae data'n cael eu casglu;

·       Ymchwil Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, pan fydd ar gael;

·       Lincs i'r pecyn cymorth i ysgolion ac i becyn cymorth y canllawiau ar-lein.

 

3.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

3.1

Ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad "Gwaith dilynol ar gysgu ar y stryd: Gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau"

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.a Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad "Gwaith dilynol ar gysgu ar y stryd: Gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau”.

 

3.2

Gwybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru mewn perthynas â’r ymchwiliad ar ôl deddfu i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015: gwaith dilynol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru mewn perthynas â’r ymchwiliad ar ôl deddfu i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015: gwaith dilynol.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.00 - 11.10)

5.

Ymchwiliad ar ôl y broses ddeddfu i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015: gwaith dilynol - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11.15 - 12.00)

6.

Y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru): briff technegol ar y Bil

Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru

Simon White, Pennaeth Strategaeth a Deddfwriaeth Tai, Llywodraeth Cymru

Rebecca Raikes, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

Nia Evans, Cwnsler Deddfwriaethol, Llywodraeth Cymru

 

Cofnodion:

6.1 Cafodd y Pwyllgor friff technegol gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru). 

 

(12.00 - 12.10)

7.

Y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru): trafod y cwmpas a’r dull gweithredu o ran craffu

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull gweithredu ar gyfer craffu ar y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) a chytunodd arno.

 

(12.10 - 12.30)

8.

Trafod y flaenraglen waith

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith.