Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/07/2019 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. |
|
(9.00 - 10.00) |
Ymchwiliad i Fudd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i'w cyflawni'n well – sesiwn dystiolaeth 6 Hannah
Blythyn AC, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr, Cymunedau & Trechu
Tlodi, Llywodraeth Cymru Linda Davis, Pennaeth trechu tlodi a Chysylltiadau'r
Adran Gwaith a Phensiynau, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Hannah Blythyn AC, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ·
Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu Tlodi, Llywodraeth
Cymru ·
Linda Davis, Pennaeth Trechu Tlodi a Chysylltiadau'r Adran Gwaith a
Phensiynau, Llywodraeth Cymru |
|
(10.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 4, 8 a 9 Cofnodion: 3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(10.00 - 10.05) |
Ymchwiliad i Fudd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i'w cyflawni'n well – trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 4.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2 a chytunodd i
ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am eglurder ar nifer o faterion. |
|
(10.10 - 11.25) |
Ymchwiliad i eiddo gwag – sesiwn dystiolaeth 1 Leighton Evans, Cyngor Sir Caerfyrddin Paula Livingstone, Cyngor Abertawe Sion Wynne, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Gaynor Toft, Cyngor Sir Ceredigion Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan: · Leighton Evans, Cyngor Sir Caerfyrddin · Paula Livingstone, Cyngor Abertawe · Sion Wynne, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam · Gaynor Toft, Cyngor Sir Ceredigion 5.2 Yn
ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y tystion i: · Ddarparu data ar leoliadau eiddo gwag yn
ardaloedd awdurdodau lleol ac a oes cysylltiad ag ardaloedd o amddifadedd
cymdeithasol; ac · Ysgrifennu at y Pwyllgor gyda rhagor o
wybodaeth am effeithiolrwydd y pwerau gorfodi sydd ar gael i awdurdodau lleol
ar gyfer ymdrin ag eiddo gwag. |
|
(11.25 - 12.10) |
Ymchwiliad i eiddo gwag – sesiwn dystiolaeth 2 Lisa Hayward, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Dewi Morgan, Cyngor Gwynedd Deb Smith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen Cofnodion: 6.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: · Lisa Haywood, Cymdeithas Llywodraeth Leol
Cymru · Dewi Morgan, Cyngor Gwynedd · Deb Smith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen |
|
(12.10- 12.15) |
Papurau i’w nodi |
|
Gohebiaeth gan Mark Isherwood AC ynghylch y Gronfa Gymdeithasol ar gyfer taliadau angladd – 21 Mehefin 2019 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1a
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Mark Isherwood AC ynghylch y Gronfa
Gymdeithasol ar gyfer taliadau angladd |
||
Gohebiaeth gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ynghylch y cais am ragor o wybodaeth yn dilyn craffu blynyddol – 26 Mehefin 2019 Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.2a
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
ynghylch y cais am ragor o wybodaeth yn dilyn y craffu blynyddol. |
||
Adroddiad ar eiddo gwag - dadansoddi o'r arolwg Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.3a
Nododd y Pwyllgor y dadansoddiad o'r arolwg o eiddo gwag. |
||
(12.15 - 12.20) |
Ymchwiliad i eiddo gwag – trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 8.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 5 a 6. |
|
(12.20 - 12.30) |
Dull gweithredu o ran gwaith dilynol ar gysgu ar y stryd yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1
Cytunodd y Pwyllgor ar y dull ar gyfer y gwaith dilynol ar gysgu ar y stryd yng
Nghymru. |