Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/05/2018 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15 - 10.45) |
Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel – trafod yr adroddiad drafft Cofnodion: 1.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. |
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 2.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r
cyfarfod. 2.2. Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Jenny
Rathbone AC a Gareth Bennett AC. |
||
(11.00 - 12.00) |
Ymchwiliad i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 6 Anna Whitehouse, Sylfaenydd, Mother Pukka Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Anna Whitehouse, Sylfaenydd, Mother Pukka 3.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Anna
Whitehouse i roi ystadegau y mae wedi'u casglu gan ei dilynwyr wrth baratoi at
y sesiwn, yn ogystal ag enghreifftiau o ymarfer gan fusnesau. |
|
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Gadeirydd y
Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
(Cymru). |
||
Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch beichiogrwydd, mamolaeth a gweithio yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg mewn perthynas â beichiogrwydd, mamolaeth a
gweithio yng Nghymru. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(12.00 - 12.15) |
Ymchwiliad i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 3 Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan
eitem 3. |