Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Committee Room 3
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/01/2018 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 2.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(10.35 - 10.50) |
Ymchwiliad i gysgu ar y stryd yng Nghymru: trafod cwmpas a dull gweithredu Cofnodion: 3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl a dull y Pwyllgor o gynnal yr
ymchwiliad. |
|
(10.50 - 11.00) |
Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ymosodiadau ar Weithwyr y Gwasanaethau Brys (Troseddau) Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Y Bil
Ymosodiadau ar Weithwyr y Gwasanaethau Brys (Troseddau) a chytunodd i ddrafftio
adroddiad arno. |
|
(11.00 - 12.00) |
Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru): sesiwn dystiolaeth 9 Daniel Hurford, Pennaeth Polisi (Gwella a Llywodraethu),
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Davina Fiore, Cyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau
Cyfreithiol, Cyngor Caerdydd Liz Withers, Pennaeth Polisi ac Ymgyrchoedd, Cymru,
Cyngor ar Bopeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Daniel Hurford, Pennaeth Polisi (Gwella a Llywodraethiant), Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ·
Davina Fiore, Cyfarwyddwr Llywodraethiant a Gwasanaethau Cyfreithiol,
Cyngor Caerdydd ·
Liz Withers, Pennaeth Polisi ac Ymgyrchoedd Cymru, Cyngor ar Bopeth 5.2
Yn ystod y sesiwn, cytunodd CLlLC i ddarparu nodyn ar: ·
Y darpariaethau yn y Bil ar gyfer ymchwiliadau ar ei liwt ei hun mewn
perthynas â goblygiadau chwythu'r chwiban; ·
Y gwasanaeth ffôn a ddarperir gan awdurdodau lleol ar gyfer cwynion llafar,
a chyfran y cwynion llafar a wneir i awdurdodau lleol, os ydynt ar gael; ·
Eu barn am oblygiadau ariannol ymchwiliadau i gwynion,
yng nghyd-destun llwybr cyhoeddus/preifat. 5.3 Yn dilyn y sesiwn, cytunodd y Pwyllgor i ofyn am nodyn gan Cyngor ar
Bopeth ynghylch y posibilrwydd o gynnwys
Tribiwnlysoedd i Atodlen 3 y Bil, a'r rhesymau dros dynnu sylw at hyn fel bwlch
posibl. |
|
(12.00 - 13.00) |
Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru): sesiwn dystiolaeth 10 Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethu, Llywodraeth
Cymru Nick Howard, Lawyer, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ·
David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethiant, Llywodraeth Cymru ·
Nick Howard, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru 6.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu: ·
Rhagor o wybodaeth am ei farn mewn perthynas ag Adran
40; ·
Ei farn ar ddrafftio technegol darpariaethau mewn
perthynas â chwynion llafar. |
|
Papur(au) i'w nodi |
||
Gwybodaeth ychwanegol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd Iwerddon mewn perthynas â’r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.1.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Gogledd Iwerddon mewn perthynas â'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus (Cymru). |
||
Gwybodaeth ychwanegol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban mewn perthynas â’r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.1.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus yr Alban mewn perthynas â'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
(Cymru). |
||
Gwybodaeth ychwanegol gan Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru mewn perthynas â’r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.3.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Arolygiaeth Gofal Iechyd
Cymru (AGIC) mewn perthynas â'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru). |
||
Gwybodaeth ychwanegol gan Hospice UK mewn perthynas â’r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.4.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Hospice UK mewn
perthynas â'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru). |
||
Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol mewn perthynas â Hawliau Dynol yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.5.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol mewn perthynas â Hawliau Dynol yng Nghymru. |
||
Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ymwneud â Hawliau Dynol yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.6.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol
a Deddfwriaeth Ychwanegol yn ymwneud â Hawliau Dynol yng Nghymru. |
||
Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ymwneud â Hawliau Dynol yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.7.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gydgysylltydd y Pwyllgor Cydraddoldeb
a Hawliau Dynol yn ymwneud â Hawliau Dynol yng Nghymru. |
||
Llythyr at Gadeirydd y Cydbwyllgor Hawliau Dynol yn ymwneud â Hawliau Dynol yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.8.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Gadeirydd y Cydbwyllgor ar Hawliau
Dynol yn ymwneud â Hawliau
Dynol yng Nghymru. |
||
Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb yn ymwneud as â Hawliau Dynol yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.9.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Menwyod a
Chydraddoldeb yn ymwneud â Hawliau Dynol yng Nghymru. |
||
Llythyr at Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip yn ymwneud â Hawliau Dynol yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.10.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip yn ymwneud â Hawliau
Dynol yng Nghymru. |
||
Adroddiad Cymorth i Fenywod Cymru ar Gyflwr y Sector: cyflwr gwasanaethau arbenigol yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru, 2017 Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.11.a Nododd y Pwyllgor adroddiad Cymorth i Fenywod Cymru ar Gyflwr y
Sector: cyflwr gwasanaethau arbenigol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig
a thrais rhywiol yng Nghymru, 2017. |
||
(13.00 - 13.15) |
Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru): trafod y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 5 a 6 Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 5 a 6. |