Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/11/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr
Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am
absenoldeb gan Rhianon Passmore AC a Bethan Jenkins AC. |
||
(10:30-11:30) |
Craffu ar Gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19: sesiwn dystiolaeth 2 Alun Davies AC,
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Reg
Mitchell-Kilpatrick, Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: · Alun Davies
AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus · Reg
Mitchell-Kilpatrick, Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru · Rob Hay,
Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Polisi Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru 2.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros
Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i ddarparu'r canlynol: · Ffigurau
cyffredinol cronfeydd wrth gefn pob awdurdod lleol ar gyfer 2017; · Dadansoddiad
o'r cronfeydd wrth gefn y mae awdurdodau lleol wedi tynnu ohonynt dros y
blynyddoedd diwethaf; · Manylion
telerau'r grantiau penodol i ganolbwyntio ar ddigartrefedd yn y Prif Grŵp
Gwariant cymunedau a phlant. |
|
(11:30-12:30) |
Craffu ar Gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19: sesiwn dystiolaeth 3 Alun Davies AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth
Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Julie James AC, Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Tai ac Adfywio Reg Mitchell-Kilpatrick, Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol,
Llywodraeth Cymru Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu Tlodi,
Llywodraeth Cymru John Howells, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth
Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: · Alun Davies,
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus · Julie James,
Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip · Rebecca Evans,
y Gweinidog Tai ac Adfywio · Reg
Mitchell-Kilpatrick, Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru · Jo-Anne
Daniels, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu Tlodi, Llywodraeth Cymru · John Howells,
Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru 3.2 Yn ystod y
sesiwn dystiolaeth, cytunodd Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip i ddarparu
unrhyw wybodaeth bellach am y safleoedd Sipsiwn a Theithwyr newydd i'w
hariannu'n gyhoeddus yn 2018-19 pan fydd y wybodaeth ar gael. 3.3 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y Gweinidog Tai ac Adfywio i
ddarparu'r canlynol: · Canfyddiadau'r
gwaith dadansoddi yn y dyfodol ar ddata a gesglir ar yr holl addasiadau cartref
pan fydd y canfyddiadau ar gael; · Yr arian a
ddyrennir ar gyfer gwaith gorfodi Rhentu Doeth Cymru ac, yn benodol, yr hyn y
bydd yn cael ei ddefnyddio ar ei gyfer. |
|
Papur(au) i'w nodi |
||
Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Cymunedau yn Gyntaf – yr hyn a ddysgwyd Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg at
Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Cymunedau yn Gyntaf –
yr hyn a ddysgwyd. |
||
Ymateb gan Let Down in Wales ynghylch ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ffioedd i denantiaid yn y sector rhentu preifat Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.2.a Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Let Down in Wales i ymgynghoriad
Llywodraeth Cymru ar ffioedd i denantiaid yn y sector rhentu preifat. |
||
Llythyr oddi wrth Gadeirydd Cydbwyllgor y DU ar Fenywod at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd ynghylch hawliau dynol yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd Cydbwyllgor y DU ar Fenywod
at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd ynghylch hawliau
dynol yng Nghymru. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(12:30-12:45) |
Craffu ar Gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19: trafod tystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3 Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3. |