Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

1.2 Datganodd yr Aelodau a ganlyn fuddiannau perthnasol fel aelodau o undebau:

  • John Griffiths AC;
  • Joyce Watson AC;
  • Rhianon Passmore AC;
  • Siân Gwenllian AC.

 

 

(09.15 - 10.15)

2.

Bil yr Undebau Llafur (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 5

·         Claire Vaughan, Cyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

·         Sarah Morley, Cyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, Ymddiriedolaeth GIG Felindre

·         Kate Lorenti, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Dros Dro, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

·         Joanna Davies, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Claire Vaughan, Cyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

·         Sarah Morley, Cyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, Ymddiriedolaeth GIG Felindre

·         Kate Lorenti, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Dros Dro, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

·         Joanna Davies, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

 

2.2 Cytunodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i ddarparu:

·         nodyn ar nifer y cyflogeion y telir eu tanysgrifiadau undeb drwy eu didynnu o’u cyflogau (‘didynnu drwy’r gyflogres’), ac ar y costau gweinyddol sydd ynghlwm;

·         nodyn i egluro’r ffactorau y byddent yn disgwyl iddynt gael eu hystyried wrth bennu cost datgymhwyso’r trothwy pleidleisio o 40% i’r gwasanaeth iechyd.

 

(10.15 - 11.15)

3.

Bil yr Undebau Llafur (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 6

·         Y Cynghorydd Tudor Davies, Cadeirydd, Awdurdod Tân ac Achub De Cymru

·         Phil Haynes, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Pobl, Awdurdod Tân ac Achub De Cymru

·         Y Cynghorydd Suzanne Paddison, Aelod o'r Awdurdod Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

·         Kevin Jones, Prif Swyddog Adnoddau Dynol a Chyfarwyddwr Adnoddau, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

·         Gary Brandrick, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol, Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Y Cynghorydd Tudor Davies, Cadeirydd, Awdurdod Tân ac Achub De Cymru

·         Phil Haynes, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Pobl, Awdurdod Tân ac Achub De Cymru

·         Y Cynghorydd Suzanne Paddison, Aelod o’r Awdurdod Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

·         Kevin Jones, Arweinydd Adnoddau Dynol a Chyfarwyddwr Adnoddau, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

·         Gary Brandrick, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol, Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru

 

3.2 Cytunodd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru i ddarparu nodyn o’i Adran Gyllid ar y costau sydd ynghlwm wrth ddidynnu tanysgrifiadau undeb o gyflogau (‘didynnu drwy’r gyflogres’).

 

4.

Papurau i’w nodi

4.1

Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn ymwneud â ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

 

4.2

Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn ymwneud â’r Bil yr Undebau Llafur (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â Bil yr Undebau Llafur (Cymru).

 

4.3

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â deiseb i Wahardd Codi Ffioedd Asiantau Gosod ar Denantiaid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â deiseb i Wahardd Codi Ffioedd Asiantau Gosod ar Denantiaid a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch ei amserlen ar gyfer penderfynu a oes angen deddfu ar y mater.

 

4.4

Gwybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Gyngor Ffoaduriaid yr Alban ynghylch yr ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.4 Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Gyngor Ffoaduriaid yr Alban mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches. 

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(11.25 - 11.45)

6.

Bil yr Undebau Llafur (Cymru) - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2 a 3. 

 

6.1

Bil yr Undebau Llafur (Cymru) - Ymatebion i’r ymgynghoriad

Dogfennau ategol:

(11.45 - 11.55)

7.

Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) - trafod yr amserlen

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr amserlen ar gyfer Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru).

 

(11.45 - 12.30)

8.

Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru - trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.