Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/01/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb,
Llywodraeth Leol a Chymunedau. 1.2. Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu
gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. 1.3. Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai’n gadael y cyfarfod
am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol
Sefydlog 17.22. |
||
(13.30 - 15.30) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 - sesiwn dystiolaeth 2 Rebecca Evans AS,
y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd Julie James AS, y
Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Hannah Blythyn
AS, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol Judith Cole,
Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Cyllid a Gweithlu Llywodraeth Emma Williams,
Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru Ian Williams,
Dirprwy Gyfarwyddwr, Cartrefi a Lleoedd, Llywodraeth Cymru Debra Carter,
Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: Rebecca
Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd Julie James
AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Hannah
Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol Judith Cole
- Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Cyllid a Gweithlu Llywodraeth Leol, Llywodraeth
Cymru Emma
Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru Ian
Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr Cartrefi a Lleoedd, Llywodraeth Cymru Debra
Carter, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth
Cymru 2.2. Yn
ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y Gweinidog Tai ac Adfywio i ddarparu’r
canlynol: · Diweddariadau ar wneud penderfyniadau o ran y Gronfa Cymorth Dewisol (DAF)
a’r galw a ragwelir ar y gronfa; · Enghreifftiau o waith gwella a wnaed gan awdurdodau lleol a chynghorau tref
a chynghorau cymuned mewn ymateb i’r pandemig, sy’n debygol o gael effeithiau
cadarnhaol hirdymor ar gyfer y cymunedau; · Diweddariadau i’r Pwyllgor ar y gwaith rhwng Grŵp Gweithredu Canol
Tref y Gweinidogion ac awdurdodau lleol a chynghorau tref a chymuned, sy’n
anelu at greu cadwyni cyflenwi lleol gan ddefnyddio busnesau bach. |
|
(15.45 - 16.30) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 - sesiwn dystiolaeth 3 Jane Hutt AS, y
Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip Alyson Francis, Dirprwy
Gyfarwyddwr yr Is-adran Gymunedau, Llywodraeth Cymru Sian Gill, Pennaeth
Adrodd Ariannol, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: Jane Hutt
AS, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip Alyson
Francis, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Gymunedau, Llywodraeth Cymru Sian Gill,
Pennaeth Adrodd Ariannol, Llywodraeth Cymru |
|
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip - strydoedd diogelach a chydraddoldeb i bobl anabl Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1.a. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy
Weinidog a’r Prif Chwip - strydoedd diogelach a chydraddoldeb i bobl anabl. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol - Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru): Cyfnod 3 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.2.a. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Tai
a Llywodraeth Leol - Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru): Cyfnod 3. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o’r cyfarfod ar 28 Ionawr Cofnodion: 5.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(16.30 - 17.00) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3 Cofnodion: 6.1. Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth ar gyfer
llywio ei adroddiad drafft. |