Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martha Howells 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/03/2019 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Vikki Howells AC a Jayne Bryant AC.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Minnau hefyd! - Ymchwiliad i rôl y celfyddydau a diwylliant wrth fynd i'r afael â thlodi ac allgau cymdeithasol: Awdurdodau lleol

Tina McMahon, Rheolwr Adfywio Cymunedol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Lauren Hughes, Cydlynydd Adfywio Ardal, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
2.2 Cytunodd y tystion i ddarparu gwybodaeth am ddata a gasglwyd ynglŷn â'r cyfranogwyr cymorth cyflogaeth sydd wedi ceisio cyflogaeth yn y sector diwylliannol.

2.3 Yn ogystal, cytunodd y tystion i ddarparu gwybodaeth am unrhyw asesiadau a gynhaliwyd o gynlluniau lleol sydd wedi bod o fudd i gyfranogwyr.

 

(10.30 - 11.15)

3.

Minnau hefyd! - Ymchwiliad i rôl y celfyddydau a diwylliant wrth fynd i'r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol: Y sector gwirfoddol

Kelly Barr, Rheolwr Rhaglen y Celfyddydau a Chreadigrwydd, Age Cymru

Dr Valerie Billingham, Rheolwr Polisi ac Ymgyrchoedd, Age Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

3.2 Cytunodd y tystion i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am Glybiau Gwanwyn.

3.3 Cytunodd y tystion i ddarparu gwybodaeth am wirfoddoli ac ymgysylltu â phobl hŷn i wneud gwaith gwirfoddol.

3.4 Cytunodd tystion i ddarparu gwybodaeth ynghylch gwaith ymgysylltu a wnaed gyda'r gymuned BME drwy Grŵp Ffocws Cynghrair yr Henoed.

 

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

4.1 Nododd aelodau'r Pwyllgor y papur.

 

4.1

Gohebiaeth â BBC Cymru Wales ynghylch yr Archif Ddarlledu Genedlaethol

Dogfennau ategol:

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.15 - 12.15)

6.

Ôl-drafodaeth breifat

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.