Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld
trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 138KB) Gweld
fel HTML (39KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd ei hun a Gareth Bennett AC i'r Pwyllgor. Gwnaeth Huw Irranca-Davies ddatganiad bod aelod o'i deulu yn gweithio i
sefydliad Cyfoeth Naturiol Cymru. |
||
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y papurau. |
||
Tystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar reoli ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Blaise Bullimore yn dilyn sesiwn dystiolaeth lafar gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar reoli ardaloedd morol gwarchodedig Dogfennau ategol: |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
||
(09.30 - 09.50) |
Y wybodaeth ddiweddaraf am adael yr Undeb Ewropeaidd: Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf a chafwyd trafodaeth ar y
materion a godwyd. Cytunodd y Pwyllgor i geisio cydweithio â deddfwrfeydd eraill y DU ar
faterion sy'n ymwneud â Brexit. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i fabwysiadu'r dull gweithredu hwn mewn perthynas
â'i holl ymchwiliadau yn y dyfodol. |
|
(09.50-10.05) |
Papur ar yr ymchwiliad i bolisi ynni Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunwyd y dylid cynnal ymchwiliad i bolisi
ynni yng Nghymru. Cytunodd y Pwyllgor i geisio cydweithio â deddfwrfeydd eraill y DU ar
faterion sy'n ymwneud â pholisi ynni. |
|
(10.05 - 10.35) |
Paratoi ar gyfer sesiwn graffu gyffredinol gyda Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar y meysydd i ofyn cwestiynau yn eu cylch yn ystod y
sesiwn graffu gyffredinol gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a
Materion Gwledig. |
|
(10.45 - 11.05) |
Crynodeb o ganfyddiadau'r arolwg cyhoeddus ar warchod moroedd Cymru a gynhaliwyd fel rhan o'r ymchwiliad i reoli ardaloedd gwarchodedig morol Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ganfyddiadau'r arolwg. |
|
(11.05 - 12.15) |
Ymchwiliad i reoli ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru - papur materion allweddol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y papur. |