Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/03/2021 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.45) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Yn unol â
Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y
dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd. 1.3 Os byddai
unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei
gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi
cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn
unol â Rheol Sefydlog 17.22. 1.4 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Joyce Watson AS. |
|
(13.45-15.00) |
Gwaith gwaddol: dyframaethu James Wilson,
Cyfarwyddwr – Cynhyrchwyr Cregyn Gleision Bangor Cyf Jon Parker,
Cadeirydd – Seafish Cymru ac Arweinydd Datblygu Aquaculture Industry Wales Ltd Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Gynhyrchwyr Cregyn Gleision Bangor Cyf, a Seafish Cymru ac Aquaculture Industry Wales
Ltd. |
|
(15.00) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 3.1 Cafodd y
papurau eu nodi. |
|
Ymateb oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i adroddiad y Pwyllgor: Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22 Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn perthynas â Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cymru) 2021 Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn perthynas â thlodi tanwydd Dogfennau ategol: |
||
(15.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 5 a 6 o'r cyfarfod heddiw Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y
cynnig. |
|
Gwaith gwaddol: dyframaeth – trafod y dystiolaeth a glywyd o dan eitem 2; a thrafod gwaith gwaddol y Pwyllgor ymhellach Cofnodion: 5.1 Ystyriodd y
Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod eitem 2 a thrafododd ei waith gwaddol. |
||
Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Cafodd yr
Aelodau friff cyfreithiol a thrafodwyd y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar
y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu). |
||
(15.40-16.30) |
Gwaith gwaddol: pysgodfeydd Jim Evans,
Cadeirydd – Cymdeithas Pysgotwyr Cymru Cofnodion: 7.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y Cadeirydd, Cymdeithas Pysgotwyr Cymru. |
|
(16.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 8.1 Derbyniwyd y
cynnig. |
|
Gwaith gwaddol: pysgodfeydd – trafod y dystiolaeth a glywyd o dan eitem 7 Cofnodion: 9.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod eitem 7. |