Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 04/03/2021 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13:45) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Yn unol â
Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y
dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd. 1.3 Os byddai
unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei
gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi
cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn
unol â Rheol Sefydlog 17.22. 1.4 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Joyce Watson AS. |
|
(13.45 - 15.00) |
Gwaith gwaddol: adfer natur Rachel Sharp,
Prif Weithredwr - Ymddiriedolaethau Natur Cymru, yn cynrychioli Cyswllt
Amgylchedd Cymru Annie Smith, Pennaeth Polisi Natur a Gwaith Achos - Y Gymdeithas
Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) Cymru Arfon Williams,
Pennaeth Polisi Tir a Môr – Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB)
Cymru Clare Trotman,
Rheolwr Polisi ac Eiriolaeth (Cymru) neu Gill Bell, Pennaeth Cadwraeth Cymru –
Y Gymdeithas Cadwraeth Forol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Gyswllt Amgylchedd Cymru; Y Gymdeithas
Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) Cymru,
ac Y Gymdeithas Cadwraeth Forol. |
|
(15.10-16.25) |
Gwaith gwaddol: allforion bwyd Gwyn Howells, Prif
Weithredwr – Hybu Cig Cymru Yr Athro Terry
Marsden - Athro Emeritws mewn Polisi a Chynllunio Amgylcheddol – Prifysgol Caerdydd Pete Robertson, Prif
Weithredwr – Ffederasiwn Bwyd a Diod Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Yr Athro Terry Marsden a chynrychiolwyr o Hybu Cig
Cymru, a Ffederasiwn Bwyd a Diod Cymru. |
|
(16.25) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 4.1Cafodd y
papurau eu nodi. |
|
Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch Rheoliadau Rhestrau Gwledydd Cymeradwy (Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid) (Diwygio) 2021 Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch Cymru'r Dyfodol - y Cynllun Cenedlaethol 2040 Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch Cyfarfod Gweinidogol y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig (BIC) ar y Cyd rhwng Tai a Chynllunio Gofodol Dogfennau ategol: |
||
(16.25) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y
cynnig. |
|
Gwaith gwaddol: Trafod y dystiolaeth a daeth i law o dan eitemau 2 a 3 Cofnodion: 6.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod eitemau 2 a 3. |