Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 21/10/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir
y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. 1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y
Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er
mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Ychwanegodd y Cadeirydd y byddai’r cyfarfod hwn
yn cael ei ddarlledu'n fyw ar www.senedd.tv. 1.3 Nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, yn
unol â Rheol Sefydlog 17.22, y byddai Suzy Davies AS yn cymryd yr awenau fel
Cadeirydd dros dro os byddai’n rhaid iddi adael y cyfarfod am unrhyw reswm. 1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dawn Bowden AS, gyda Jack
Sargeant AS yn dirprwyo ar ei rhan. |
|
(09.30 - 11.30) |
Y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 12 gyda chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru Kirsty
Williams AS, y Gweinidog Addysg - Llywodraeth Cymru Georgina
Haarhoff, Dirprwy Gyfarwyddwr - Cwricwlwm ac Asesu - Llywodraeth Cymru Kate
Johnson, Uwch-gyfreithiwr - Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog
Addysg. 2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn
iddi egluro meysydd penodol a drafodwyd yn ystod y sesiwn ac i ofyn y
cwestiynau nad oedd amser i’w trafod. 2.3. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth a
ganlyn: ·
esboniad
ysgrifenedig pam, ym marn Llywodraeth Cymru, y byddai’n amhriodol rhoi dyletswyddau
ar bobl/cyrff perthnasol sy’n arfer swyddogaethau o dan y Bil i roi sylw
dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ac mai dim ond y
Llywodraeth a’r Gweinidogion ddylai fod â dyletswydd o’r fath; ·
manylion
y gwelliannau/gwelliant y mae’n bwriadu eu cyflwyno, os yw’r Bil yn symud
ymlaen at Gyfnod 2, mewn perthynas â’r gofyniad i addysgu Saesneg cyn 7 oed a
galluogi trochi yn y Gymraeg; ·
y
wybodaeth ddiweddaraf am yr amcangyfrifon o ran costau’r Bil ar ôl ailddechrau
a chwblhau’r gwaith perthnasol gyda rhanddeiliaid. |
|
(11.30) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 3.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Llythyr gan Gymwysterau Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 18 Awst Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Brifysgol Bangor at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch y trefniadau i gefnogi myfyrwyr yng ngoleuni COVID-19 (Saesneg yn unig) Dogfennau ategol: |
||
(11.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Cafodd y cynnig ei gytuno. |
|
(11.30) |
Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn
ystod y sesiwn flaenorol. |
|
(12.00 - 12.30) |
Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith, gan gytuno
ar y materion a ganlyn: - i gynnal sesiwn dystiolaeth y tymor nesaf i drafod
busnes sy’n gysylltiedig â COVID-19; - dull ar gyfer y gwrandawiad cyn penodi’r ymgeisydd a
ffafrir ar gyfer rôl Cadeirydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru; - i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i gyflwyno crynodeb
o ganfyddiadau’r Pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad byr i wella ysgolion a chodi
safonau, a oedd wedi’i oedi oherwydd y pandemig; - pa feysydd yr hoffai’r Pwyllgor ganolbwyntio arnynt ym
mhob sesiwn ar yr Adroddiad Blynyddol; - i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am wybodaeth
ysgrifenedig fanwl i helpu i lywio gwaith craffu’r Pwyllgor ar y gyllideb ddrafft; - i ddychwelyd at y drafodaeth ar gyllid ysgolion yn y
dyfodol; - i ddychwelyd at y drafodaeth ar waith ar etifeddiaeth y
Pwyllgor yn y dyfodol; a - bod staff y Pwyllgor yn cadw llygad ar fframweithiau
cyffredin y DU sy’n berthnasol i waith y Pwyllgor. |