Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/11/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.

1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Suzy Davies AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dawn Bowden AS. Dirprwyodd Jack Sargeant AS ar ei rhan.

 

 

(09.15 - 10.10)

2.

Sesiwn dystiolaeth ar effaith Covid-19 ar addysgu a dysgu o bell, ac ar arholiadau ac asesiadau gyda Chymwysterau Cymru a CBAC

David Jones, Cadeirydd - Cymwysterau Cymru

Philip Blaker, Prif Weithredwr - Cymwysterau Cymru

Jo Richards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio - Cymwysterau Cymru

Ian Morgan, Prif Weithredwr - CBAC

Elaine Carlile, Cyfarwyddwr Cymwysterau, Asesu a Swyddog Cyfrifol - CBAC

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymwysterau Cymru a CBAC.

 

(10.25 - 11.10)

3.

Sesiwn dystiolaeth ar effaith Covid-19 ar addysgu a dysgu o bell, ac ar arholiadau ac asesiadau gyda Louise Casella

Louise Casella, Cadeirydd yr adolygiad annibynnol o drefniadau haf 2020 ar gyfer dyfarnu graddau, ac ystyriaethau ar gyfer haf 2021

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Louise Casella.

 

(11.25 - 12.25)

4.

Sesiwn dystiolaeth ar effaith Covid-19 ar addysgu a dysgu o bell, ac ar arholiadau ac asesiadau gyda chynrychiolwyr y sector addysg

Guy Lacey, Prif Swyddog Gweithredol/Pennaeth Coleg Gwent ac Is-gadeirydd ColegauCymru

Kay Martin, Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro a Chadeirydd Grŵp Cwricwlwm ac Ansawdd ColegauCymru

Meinir Ebbsworth, Prif Swyddog Addysg/Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Ysgolion a Diwylliant, Cyngor Ceredigion ac yn cynrychioli Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg

Mike Tate, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Addysg a Dysgu Gydol Oes - Cyngor Caerdydd ac yn cynrychioli Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg

Y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor ac aelod Cabinet dros Addysg - Cyngor Sir y Fflint a Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros Addysg

Arwyn Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr - Consortia Addysg GwE ac yn cynrychioli'r holl Gonsortia Addysg Rhanbarthol 

 

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan CLlLC, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, ColegauCymru a'r Consortia Addysg Rhanbarthol.

 

(12.25)

5.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

5.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

5.1

Gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas â’r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) gan NASUWT yn dilyn y cyfarfod ar 24 Medi

Dogfennau ategol:

5.2

Gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas â’r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) gan Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL) yn dilyn y cyfarfod ar 24 Medi

Dogfennau ategol:

5.3

Gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas â’r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) gan yr Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) yn dilyn y cyfarfod ar 24 Medi

Dogfennau ategol:

5.4

Gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas â’r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) gan Gymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon yn dilyn y cyfarfod ar 24 Medi

Dogfennau ategol:

5.5

Gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas â’r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) gan Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn dilyn y cyfarfod ar 24 Medi

Dogfennau ategol:

5.6

Gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas â’r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) gan Gomisiynydd y Gymraeg yn dilyn y cyfarfod ar 8 Hydref

Dogfennau ategol:

5.7

Gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas â’r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) gan Gomisiynydd Plant Cymru yn dilyn y cyfarfod ar 8 Hydref

Dogfennau ategol:

5.8

Gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas â’r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) gan Brooke, NSPCC, yr Athro Renold, Cymorth i Ferched Cymru a Stonewall Cymru yn dilyn y cyfarfod ar 8 Hydref

Dogfennau ategol:

5.9

Gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas â’r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) gan y Gwasanaeth Addysg Gatholig yn dilyn y cyfarfod ar 15 Hydref

Dogfennau ategol:

5.10

Gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas â’r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) gan yr Eglwys yng Nghymru yn dilyn y cyfarfod ar 15 Hydref

Dogfennau ategol:

5.11

Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan y Gweinidog Addysg - gwybodaeth ychwanegol ar gyfer Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) yn dilyn y cyfarfod ar 21 Hydref

Dogfennau ategol:

5.12

Llythyr gan y Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch y cyfnod atal byr a'i effaith ar blant a phobl ifanc

Dogfennau ategol:

(12.25)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.25 - 12.30)

7.

Effaith Covid-19 ar addysgu a dysgu o bell, ac ar arholiadau ac asesiadau - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau blaenorol.

7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg ynglŷn ag effaith Covid-19 ar addysgu a dysgu o bell.

7.3 Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a'r Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg ynglŷn â chefnogaeth i iechyd meddwl a llesiant dysgwyr.