Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/10/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Yn sgil methiant technegol, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22, cadeiriwyd y cyfarfod dros dro gan Dawn Bowden AS wrth i Lynne Neagle, y Cadeirydd, ail-ymuno.

1.2 Croesawodd Dawn Bowden AS yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

1.3 Dywedodd Dawn Bowden AS fod y Cadeirydd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.

1.4 Nodwyd ymddiheuriadau gan Suzy Davies AS ar gyfer yr ail sesiwn dystiolaeth.

(09.15 - 10.15)

2.

Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): Sesiwn Dystiolaeth 10 gyda Chynrychiolwyr Grwpiau Ffydd, Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol Cymru a'r Panel Ymgynghorol Cenedlaethol Addysg Grefyddol

Angela Keller, Cynghorydd Cymru - Gwasanaeth Addysg Gatholig

Elizabeth Thomas, Cyfarwyddwr Addysg Daleithiol - yr Eglwys yng Nghymru   

Paula Webber, Swyddog Gweithredol - Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol. (CYSAGau)   

Libby Jones, Cadeirydd - y Panel Ymgynghori Cenedlaethol ar Addysg Grefyddol (PYCAG)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gwasanaeth Addysg Gatholig, yr Eglwys yng Nghymru, Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAGau) a'r Panel Ymgynghori Cenedlaethol ar Addysg Grefyddol (PYCAG)

2.2 Cytunodd y Gwasanaeth Addysg Gatholig i rannu â'r Pwyllgor bapur ganddo sy’n manylu ei bryderon ynghylch effaith darparu dau faes llafur o bosibl o dan ddarpariaethau CGM y Bil.

(10.35 - 11.35)

3.

Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) – sesiwn dystiolaeth 11 gyda chynrychiolwyr grwpiau anghrefyddol

Dr Ruth Wareham, Rheolwr Ymgyrchoedd Addysg - Dyneiddwyr y DU

Kathy Riddick, Cydlynydd Dyneiddwyr Cymru - Dyneiddwyr y DU

Alastair Lichten, Pennaeth Addysg ac Ysgolion - y Gymdeithas Seciwlar Genedlaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ddyneiddwyr y DU a'r Gymdeithas Seciwlar Genedlaethol.

(11.35)

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

4.1

Llythyr gan Goleg Caerdydd a’r Fro at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch trefniadau i gefnogi myfyrwyr yng sgil COVID-19

Dogfennau ategol:

4.2

Llythyr gan Brifysgol Wrecsam Glyndŵr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch trefniadau i gefnogi myfyrwyr yng sgil COVID-19

Dogfennau ategol:

4.3

Llythyr gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch trefniadau i gefnogi myfyrwyr yng sgil COVID-19

Dogfennau ategol:

4.4

Llythyr gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch trefniadau i gefnogi myfyrwyr yng sgil COVID-19

Dogfennau ategol:

4.5

Llythyr gan Brifysgol Dr Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch trefniadau i gefnogi myfyrwyr yng sgil COVID-19

Dogfennau ategol:

4.6

Llythyr gan Brifysgol Abertawe at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch trefniadau i gefnogi myfyrwyr yng sgil COVID-19

Dogfennau ategol:

4.7

Llythyr gan Brifysgol Caerdydd at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch trefniadau i gefnogi myfyrwyr yng sgil COVID-19

Dogfennau ategol:

4.8

Llythyr gan Brifysgol Aberystwyth at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch trefniadau i gefnogi myfyrwyr yng sgil COVID-19

Dogfennau ategol:

4.9

Llythyr gan Gymwysterau Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 17 Medi

Dogfennau ategol:

4.10

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn tynnu sylw at bryderon a godwyd yn ei ymchwiliad i COVID-19

Dogfennau ategol:

(11:35)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.35 - 11.45)

6.

Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau blaenorol.

 

(11.45 - 12.15)

7.

Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): cyflwyno'r dadansoddiad o dystiolaeth ysgrifenedig

Cofnodion:

7.1 Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan Wavehill o'r dadansoddiad o dystiolaeth ysgrifenedig.

 

(12.15 - 12.30)

8.

Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor

Cofnodion:

8.1 Oherwydd prinder amser, symudwyd yr eitem hon i'r cyfarfod nesaf, a gynhelir ar 21 Hydref 2020.