Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/06/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau.

1.2        Datganodd y Cadeirydd ei bod yn aelod o'r grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol.

 

(09.15 - 10.30)

2.

Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddyliol Plant a Phobl Ifanc – Gwaith dilynol ar yr adroddiad 'Cadernid Meddwl' – Sesiwn dystiolaeth 1

Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg

Steve Davies, Cyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Addysg

Ruth Conway, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Cymorth i Ddysgwyr

 

*Noder bod yr holl bapurau o dan eitem 2 hefyd yn berthnasol i eitem 3. 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Gweinidog Addysg.

2.2 Cytunodd y Gweinidog Addysg i ddarparu nodyn ar nifer yr ysgolion, gan gynnwys nifer yr aelodau staff, sydd wedi cael hyfforddiant ACE.

 

 

(10.45 - 12.00)

3.

Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddyliol Plant a Phobl Ifanc – Gwaith dilynol ar yr adroddiad 'Cadernid Meddwl' – Sesiwn dystiolaeth 2

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Joanna Jordan, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Llywodraethiant a Gwasanaethau Corfforaethol y GIG

Matt Downton, Pennaeth Iechyd Meddwl a Grwpiau Agored i Niwed

 

*O gofio'r gwaith sylweddol sydd ar y gweill yn y maes hwn, nid oedd y Pwyllgor yn dymuno gorlwytho rhanddeiliaid ag ymgynghoriad pellach i helpu i lywio'r sesiwn hon. Fodd bynnag, rhoddwyd gwybod i randdeiliaid fod croeso iddynt rannu eu barn ar gynnydd os oeddent yn dymuno. Daeth dau bapur i law:

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

3.2 Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu'r canlynol:

  • Crynodeb o Adroddiad Uned Gyflawni'r GIG o'i Adolygiad Capasiti, gan gynnwys adroddiadau pob Bwrdd Iechyd unigol a'r adroddiad y seiliwyd y cynlluniau gwella interim arnynt. 
  • Data rheoli ar wasanaethau niwroddatblygiadol.
  • Y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith ehangach, gan gynnwys rôl asiantaethau eraill, ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth iawn sy'n cael eu rhoi mewn ysbytai yn Lloegr.
  • Nodyn ar y cynnydd a wneir ar iechyd emosiynol ac iechyd meddyliol Plant sy'n Derbyn Gofal (Argymhelliad 23 yn 'Cadernid Meddwl').

 

 

(12.00)

4.

Papur i’w nodi

Cofnodion:

4.1 Nodwyd y papur.

 

4.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - P-05-879 Dylid ychwanegu addysg iechyd meddwl at y cwricwlwm addysgu gorfodol ar gyfer pob ysgol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

(12.00)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.00 - 12.15)

6.

Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddyliol Plant a Phobl Ifanc – Gwaith dilynol ar yr adroddiad 'Cadernid Meddwl' – Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn.

 

(12.15 - 13.00)

7.

Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) – Trafod y prif faterion

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y prif faterion, a chaiff adroddiad drafft ei drafod ar 10 Gorffennaf.