Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 16/05/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack Sargeant AC;
roedd Jayne Bryant AC yn dirprwyo ar ei ran.
|
|
(09.30 - 10.30) |
Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 6 Cynrychiolwyr
yr Heddlu Jeff
Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent a Chadeirydd Grŵp Plismona
Cymru Gyfan. Matt
Jukes, Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr yr Heddlu. 2.2
Cytunodd cynrychiolwyr yr Heddlu i ddarparu nodyn ynghylch y sefyllfa
bresennol, fel y maent yn ei deall mewn perthynas â datblygiad a gwaith
canolfannau diogelu amlasiantaeth. |
|
(10.45 - 11.45) |
Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 7 Cymdeithas
Gweithwyr Cymdeithasol Prydain yng Nghymru Allison Hulmes, Cyfarwyddwr
Cenedlaethol Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan BASW Cymru. 3.2
Cytunodd y Cyfarwyddwr i ddarparu nodyn am y materion a ganlyn: ·
Tystiolaeth
o ran unrhyw ddwysâd o ran gweithgarwch sy’n is na’r trothwy presennol ar gyfer
defnyddio’r amddiffyniad cosb resymol i weithgarwch yr ystyrir ei fod yn
ymosodiad ·
Ymwneud
BASW Cymru hyd yn hyn â’r gwaith o ddatblygu’r Bil |
|
(11.45) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 4.1 Cafodd
y papurau eu nodi. 4.2
Diolchodd y Cadeirydd i Senedd Ieuenctid Cymru am ei gyfraniad at waith
craffu'r Pwyllgor ar y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru). |
|
Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) - Llythyr gan Senedd Ieuenctid Cymru Dogfennau ategol: |
||
Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - gwaith dilynol: y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am adroddiad Cadernid Meddwl y Pwyllgor Dogfennau ategol: |
||
Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - gwaith dilynol: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Raglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Cydnabyddiaeth o ymateb y Pwyllgor i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynghylch Pwysau Iach: Cymru Iach Dogfennau ategol: |
||
(11:45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.45 - 12.00) |
Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau. |