Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/03/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(10:25) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 O dan
Reol Sefydlog 17.22 etholwyd John Griffiths yn Gadeirydd dros dro. 1.2
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Lynne
Neagle; nid oedd dirprwy yno ar ei rhan. |
|
(10:25 - 11:20) |
Ymchwiliad i Gyllid wedi'i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol - sesiwn dystiolaeth 8 Estyn Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd EM Claire Morgan, Cyfarwyddwr Strategol Simon Brown, Cyfarwyddwr Strategol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Estyn. Cytunwyd i ddarparu gwybodaeth am y
canlynol: ·
Nodyn ar enghreifftiau o ysgolion sydd wedi gwneud cryn
gynnydd o ran cau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion sy'n gymwys am brydau
ysgol am ddim a disgyblion nad ydynt yn gymwys, ac eglurhad o'r hyn y byddech
yn ei ystyried fel gwneud cynnydd sylweddol i gau'r bwlch. ·
Nodyn ar enghreifftiau o ddefnydd effeithiol o'r Grant
Datblygu Disgyblion ar blant sy'n derbyn gofal neu blant mabwysiedig, a hefyd
ar unrhyw ddefnydd aneffeithiol. 2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu gyda'r cwestiynau na
chawsant eu gofyn oherwydd cyfyngiadau amser. |
|
(11:25 - 12:30) |
Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn ar gyfer 2016 - 2017 Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd EM Claire Morgan, Cyfarwyddwr Strategol Simon Brown, Cyfarwyddwr Strategol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Bu'r
Pwyllgor yn craffu ar waith Esytn o ran ei adroddiad blynyddol. |
|
(12:30) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 4.1 Nodwyd
y papur. |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch Rhaglen Hwb Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd am weddill y cyfarfod. Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig |
||
(12:30 - 12:35) |
Ymchwiliad i Gyllid wedi'i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol - Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Bu'r
Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn. |
|
(12:35 - 12:40) |
Adroddiad Blynyddol Estyn - Trafod y sesiwn graffu Cofnodion: 7.1 Bu'r
Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn. |
|
(12:40 - 12:45) |
Trafod gohebiaeth gyda CBAC – argaeledd gwerslyfrau Cofnodion: 8.1
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth. Cytunodd yr Aelodau i gymryd tystiolaeth
bellach. |