Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod  (PDF 615 KB) Gweld fel HTML (327 KB)

 

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar; dirprwyodd Angela Burns ar ei ran.

 

(09.30 - 11.00)

2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol - sesiwn graffu gyffredinol

Llywodraeth Cymru

 

Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Rebecca Evans AC, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dr Sarah Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, Iechyd Meddwl, Grwpiau Agored i Niwed a Throseddwyr

Dr Frank Atherton, Brif Swyddog Meddygol

Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet a'r Gweinidog.

 

Cytunwyd y byddai nodyn yn cael ei ddarparu ar y materion a ganlyn:

 

Y wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlen ar gyfer cyhoeddi data ynghylch targedau amser yr asesiad CAMHS;

 

Y wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad o'r 'Fframwaith ar gyfer Gwasanaeth Nyrsio mewn Ysgolion i Gymru' yn dilyn y cyfarfod â'r Prif Swyddog Nyrsio;

 

Cyfraddau bwydo ar y fron yng Nghymru ar ôl chwe mis;

 

Nodyn ar Wasanaethau Newyddenedigol ledled Cymru, gan gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am ysbytai sydd ar y gofrestr 'mewn perygl'.

(11.00 - 12.00)

3.

Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 2

Denise Inger, Prif Weithredwr – SNAP Cymru

Debbie Thomas, Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd – y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar

Tim Ruscoe, Swyddog Materion Cyhoeddus Cymru - Barnardo's Cymru

Zoe Richards, Rheolwr Pobl Ifanc a Gofalwyr - Anabledd Dysgu Cymru

Angie Contestabile, Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd - Sense Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan TSANA.

(12.00)

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

Nodwyd y papurau.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet am ragor o wybodaeth am y cynllun 'Fy Ngherdyn Teithio'.  

4.1

Llythyr gan UCM Cymru at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Dogfennau ategol:

4.2

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Rhagor o wybodaeth am 'Llwybrau Llwyddiant'

Dogfennau ategol:

(12.05)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.05 - 12.25)

6.

Ymchwiliad i Ddarpariaeth o ran Eiriolaeth Statudol – Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân newidiadau.