Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 347 KB) Gweld fel HTML (299 KB)

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

O dan Reol Sefydlog 17.24, datganodd Llyr Gruffydd AC ei fod yn gyn Is-lywydd ar Gyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol, datganodd Lynne Neagle AC fod ei gŵr yn gweithio i Brifysgol De Cymru ar hyn o bryd, a datganodd Hefin David AC ei fod yn ddarlithydd cyswllt ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.

 

(09.30 - 10.45)

2.

Ymchwiliad i waith ieuenctid - Sesiwn dystiolaeth 3 -Llywodraeth Cymru

Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Kara Richards, Pennaeth Ymgysylltu a Chyflogaeth Ieuenctid

Sam Evans, Uwch-reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog dros Ddysgu Gydol Oes a'r Iaith Gymraeg. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r canlynol:

 

Canlyniadau'r ymarfer mapio cyfredol o ddarpariaeth y sector gwirfoddol o ran gwaith ieuenctid;

Astudiaethau achos yn dangos lle mae awdurdodau lleol a gweithwyr ym maes ieuenctid yn cydweithio'n dda ac enghreifftiau o ble mae angen cymorth pellach;

Yr holl wybodaeth a gyhoeddir ar y ddarpariaeth statudol ar gyfer gwaith ieuenctid, gan gynnwys gwybodaeth ynghylch ffrydiau ariannu; 

Ffigurau ar y lleihad mewn niferoedd staff yn ystod y blynyddoedd diweddar yn adran Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru;

Dadansoddiad o'r £36.6 miliwn sy'n cael ei wario rhwng awdurdodau lleol ar wasanaethau ieuenctid ledled Cymru;

Y themâu sy'n deillio o'r ymgynghoriad diweddar ar gynigion i gefnogi datblygiad Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol newydd.

 

 

(11.00 - 12.30)

3.

Trafodaeth gyda’r Athro Syr Ian Diamond ar yr Adolygiad o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr Cymru

Yr Athro Syr Ian Diamond

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr Adolygiad gyda Syr Ian Diamond.

 

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

Cafodd y papurau eu nodi.

 

4.1

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol – rhagor o wybodaeth yn dilyn y cyfarfod ar 14 Medi

Dogfennau ategol:

4.2

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – rhagor o wybodaeth yn dilyn y llythyr a anfonwyd ar 15 Medi ynglŷn â’r cam gweithredu yng nghyfarfod 13 Gorffennaf

Dogfennau ategol:

4.3

Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Dogfennau ategol:

(12.30)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem nesaf.

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.30 - 12.40)

6.

Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith. Cytunwyd i gynnal ymchwiliadau i'r ddarpariaeth o ran eiriolaeth statudol a'r Grant Gwella Addysg: Plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phlant o leiafrifoedd ethnig. Cytunwyd hefyd i weithio ar y broses o weithredu diwygiadau'r cwricwlwm a chraffu ar Adroddiad Blynyddol Cymwysterau Cymru.