Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/03/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac
Addysg. 1.2 Yn unol â
Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y
cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, gan ychwanegu y
byddai’r cyfarfod yn cael ei ddarlledu'n fyw ar www.Senedd.tv 1.3 Os byddai’r
Cadeirydd yn gorfod gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, nododd y byddai Dawn
Bowden yn cymryd yr awenau fel Cadeirydd dros dro yn unol â Rheol Sefydlog
17.22. 1.4 Ni chafwyd
unrhyw ymddiheuriadau. |
|
(09.15 - 10.00) |
COVID-19: plant sy’n agored i niwed Sarah Crawley,
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Plant - Barnardo’s Cymru Brigitte Gater,
Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymru - Gweithredu dros Blant Cecile Gwilym,
Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus - NSPCC
Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan NSPCC Cymru, Barnardo’s Cymru a Gweithredu dros Blant. |
|
(10.15 - 11.00) |
COVID-19: plant sy’n agored i niwed Deborah Jones,
Prif Swyddog Gweithredol, Voices From Care Emma
Phipps-Magill, Rheolwr Llesiant – Voices From Care Sharon Lovell,
Prif Swyddog Gweithredol - Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol Cymru
(NYAS) Ben Twomey,
Cyfarwyddwr Polisi ac Ymchwil - Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol
Cymru Jackie Murphy,
Prif Swyddog Gweithredol, Tros Gynnal Plant Cymru Cofnodion: 3.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol, Voices
from Care Cymru a Tros Gynnal Plant Cymru. 3.2 Cytunodd Tros
Gynnal Plant Cymru i ddarparu nodyn ynghylch faint o blant sy’n byw yn y 155 o
gartrefi preifat annibynnol yng Nghymru. 3.3 Cytunodd
Voices from Care Cymru i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn: adroddiad ar y
broses ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal; a’r wybodaeth
ddiweddaraf am brosiectau sy’n gysylltiedig â’r broses o adael gofal yng Nghymru,
sydd â’r teitl ‘Pan Fydda i’n Barod’. |
|
(11.15 - 12.00) |
COVID-19: plant sy’n agored i niwed Sally Jenkins,
Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd - Cyngor Dinas Casnewydd Jan Coles,
Pennaeth Gwasanaethau Plant - Cyngor Sir Powys Nicola Stubbins,
Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS) Jonathan Griffiths,
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai - Cyngor Sir Penfro Cofnodion: 4.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr ar reng flaen gwasanaethau cymdeithasol
yr awdurdodau lleol. |
|
(12.00) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 5.1 Cafodd y
papurau eu nodi. |
|
Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Llywydd at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 - effaith ar Bwyllgorau'r Senedd Dogfennau ategol: |
||
(12.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 6.1 Cafodd y
cynnig ei gytuno. |
|
(12.00 - 12.30) |
COVID-19 - Trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. Oherwydd mai dyma gyfarfod
olaf y Pwyllgor yn ystod y bumed Senedd, cytunodd yr Aelodau i drafod unrhyw
welliannau terfynol yn electronig, gan gytuno ar yr adroddiad diwygiedig yn
electronig hefyd. |