Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Amseriad disgwyliedig: Cyfarfod preifat 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS.

 

(13.30 - 15.00)

2.

Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n gysylltiedig â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Shan Morgan – Ysgrifennydd Parhaol

Dr Andrew Goodall – Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Phrif Weithredwr GIG Cymru

Gawain Evans – Cyfarwyddwr Cyllid

David Richards – Cyfarwyddwr Llywodraethiant a Moeseg

Andrew Jeffreys – Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu aelodau’r pwyllgor yn holi Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru a’i swyddogion ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i’r argyfwng iechyd cyhoeddus COVID-19, a’r camau a gymerwyd ganddi hyd yma.

2.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol i ysgrifennu at y Cadeirydd ynghylch nifer o faterion.

2.3 Wrth i Aelodau drafod y dystiolaeth a ddaeth i law, nodwyd eu bod am gael gwybodaeth ychwanegol, a bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol i ofyn am y wybodaeth hon.

 

(15.10 - 15.30)

3.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion:

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

3.1

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - Trefniadau ar gyfer penodiadau staff uwch dros dro: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (17 Mawrth 2020)

Dogfennau ategol:

3.2

Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Llythyr gan Gomisiwn y Cynulliad (18 Mawrth 2020)

Dogfennau ategol:

3.3

COVID-19: Llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (30 Mawrth 2020)

Dogfennau ategol:

3.4

Craffu ar Gyfrifon 2019-20: Llythyr ar y cyd gan yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru (14 Ebrill 2020)

Dogfennau ategol:

3.7

Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (21 Ebrill 2020)

Dogfennau ategol:

3.6

Cyfarwyddyd Gweinidogol - Trefniadau pensiwn y GIG ar gyfer 2019/20: Llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (23 Ebrill 2020)

Dogfennau ategol:

(15.30 - 16.00)

4.

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau o ran gwaith Swyddfa Archwilio Cymru

PAC(5)-11-20 Papur 1 - Llythyr drafft at Brif Weithredwyr cyrff archwiliedig (i’w gyhoeddi ar 30 Ebrill 2020)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am ddatblygiadau o ran rhaglen waith Archwilio Cymru yn sgil yr argyfwng iechyd Cyhoeddus COVID-19, a’r penderfyniadau a gymerwyd yn hynny o beth.

4.2 Nododd yr Archwilydd Cyffredinol fod y sefydliad bellach wedi newid ei enw i ‘Archwilio Cymru’ yn sgil adborth gan randdeiliaid, staff a’r cyhoedd yng Nghymru.