Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/02/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau
i'r cyfarfod ac yn enwedig Delyth Jewell AC wedi iddi gael ei hethol i’r
pwyllgor ar 28 Ionawr yn lle Adam Price AC. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Vikki Howells
AC. Ni chafwyd dirprwy ar ei rhan. |
|
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
||
Fy Ngherdyn Teithio: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (16 Ionawr 2020) Dogfennau ategol: |
||
Cymorth ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (23 Ionawr 2020) Dogfennau ategol: |
||
(13.15 - 14.30) |
Cyfarwyddyd Gweinidogol - trefniadau pensiwn y GIG ar gyfer 2019/20: sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru Brîff gan y
Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-05-20
Papur 1 - Gohebiaeth gan yr Ysgrifennydd Parhaol (20 Rhagfyr 2019) PAC(5)-05-20 Papur
2 - Gohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (6 Ionawr 2020) Shan Morgan -
Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru Dr Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru David Richards - Cyfarwyddwr Llywodraethiant a Moeseg Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Datganodd Dr Andrew Goodall fuddiant gan ei fod yn
aelod o staff y GIG, sydd ar secondiad gyda Llywodraeth Cymru, ac sy’n cael
pensiwn y GIG. 3.2 Craffodd yr Aelodau ar Lywodraeth Cymru ynghylch y
Cyfarwyddyd Gweinidogol a gyhoeddwyd ar 18 Rhagfyr 2019 ynghylch trefniadau
pensiwn y GIG ar gyfer 2019-20. |
|
(14.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitem 5 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(14.30 - 15.00) |
Cyfarwyddyd Gweinidogol - trefniadau pensiwn y GIG ar gyfer 2019/20: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law. Cofnodion: 5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law gan
gytuno y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol yn Llywodraeth
Cymru i roi barn y Pwyllgor am y weithdrefn a ddilynwyd ac unrhyw beth y mae
angen ei wella yn y broses Cyfarwyddyd Gweinidogol. |