Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/06/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. 

 

(13.30 - 15.00)

2.

Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Papur briffio

PAC(5)-15-19 Papur 1 - Llywodraeth Cymru

 

Dr Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru

Dr Chris Jones - Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru a chan Dr Chris Jones, y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol fel rhan o'r ymchwiliad i reoli apwyntiadau dilynol cleifion allanol ar draws Cymru.

2.2 Cytunodd Dr Andrew Goodall i:

·         roi restr o'r gwelliannau y gofynnir i bob bwrdd iechyd eu gwneud

·         rhannu'r adborth gan Fwrdd Gweithredu Offthalmoleg ar ganlyniadau'r mesurau newydd ar gyfer gofal llygaid

·         rannu enghreifftiau o'r darnau o waith y mae clinigwyr yn arwain arnynt fel rhan o'r gwelliannau sy'n cael eu hysgogi gan y rhaglen gofal wedi'i gynllunio genedlaethol a'r byrddau arbenigol cysylltiedig.

 

 

(15.00)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Eitem 4

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

 

(15.00-15.15)

4.

Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.

 

4.

Blaenraglen Waith

Cofnodion:

5.1 Yn dilyn penderfyniad y Prif Weinidog i beidio â bwrw ymlaen â phrosiect ffordd liniaru'r M4, fel y'i cyhoeddwyd ar 4 Mehefin 2019, ac yn sgil cyhoeddi manylion am gostau'r prosiect, sydd bellach yn £114 miliwn, cytunodd yr Aelodau fod gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus rôl yn ymchwilio i'r gwariant hwn a chytunwyd ar wneud darn byr o waith ar y mater.