Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/05/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar AC a dirprwyodd Darren Millar AC ar ei ran. Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Rhianon Passmore AC, Adam Price AC a Jenny Rathbone AC.

1.3        Nododd y Cadeirydd nad yw Neil Hamilton AC bellach yn aelod o’r Pwyllgor a diolchodd iddo am ei gyfraniad i waith y Pwyllgor.

 

(13.30- 13.40)

2.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau.

 

2.1

Gwariant ar staff asiantaeth gan GIG Cymru: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (25 Ebrill 2019)

Dogfennau ategol:

2.2

Rheoli apwyntiadau dilynol cleifion allanol ar draws Cymru: Llythyr gan Goleg Brenhinol y Meddygon a chan y BMA

Dogfennau ategol:

(13.40 - 15.10)

3.

Cynllun Llywodraeth Cymru i gynnig tocynnau bws rhatach i bobl ifanc – FyNgherdynTeithio: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-13-19 Papur 1 - Llywodraeth Cymru

 

Andrew Slade - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru

Simon Jones – Cyfarwyddwr, Seilwaith yr Economi, Llywodraeth Cymru

Sheena Hague - Dirprwy Gyfarwyddwr Rheoli'r Rhwydwaith, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd yr aelodau dystiolaeth gan Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, gan Simon Jones, Cyfarwyddwr, Seilwaith Economaidd, a chan Sheena Hague, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheoli’r Rhwydwaith, Llywodraeth Cymru fel rhan o’r ymchwiliad i FyNgherdyn Teithio, sef cynllun tocynnau bws rhatach i bobl ifanc Llywodraeth Cymru.

3.2 Cytunodd Andrew Slade i anfon rhagor o wybodaeth ynglŷn â nifer o gamau gweithredu.

(15.10)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Eitem 5

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.10 - 15.30)

5.

Cynllun Llywodraeth Cymru i gynnig tocynnau bws rhatach i bobl ifanc – FyNgherdynTeithio: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Bu’r Aelodau yn trafod y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru gyda’u canfyddiadau.