Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/03/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC ac Adam Price AC. Ni chafwyd dirprwyon.

 

(13.15 - 14.45)

2.

Gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau: Sesiwn dystiolaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-08-19 Papur 1 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

PAC(5)-08-19 Papur 2 – Ymateb gan Goleg Brenhinol Meddygon Teulu

PAC(5)-08-19 Papur 3 – Ymateb gan Y Gymdeithas Feddygol Brydeinig

 

Joe Teape – Dirprwy Brif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Richard Archer – Meddyg Teulu y tu allan i oriau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd yr aelodau dystiolaeth gan Joe Teape, y Dirprwy Brif Weithredwr a Richard Archer, Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, fel rhan o'r ymchwiliad i wasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau.

 

(14.55 - 16.30)

3.

Gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau: Sesiwn Dystiolaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

PAC(5)-08-19 Papur 4 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

 

Steve Curry – Prif Swyddog Gweithredu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Lisa Dunsford – Cyfarwyddwr Gweithrediadau ar gyfer y Bwrdd Clinigol Gofal Cychwynnol, Cymunedol a Chanolraddol (PCIC), Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Dr Sherard Lemaitre – Meddyg Teulu ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro y tu allan i oriau

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd yr aelodau dystiolaeth gan Steve Curry, y Prif Swyddog Gweithredu; Lisa Dunsford, Cyfarwyddwr Gweithrediadau'r Bwrdd Clinigol Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Chanolraddol, a Dr Sherard Lemaitre, Meddyg Teulu o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, fel rhan o'r ymchwiliad i wasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau.

3.2 Cytunodd Steve Curry i anfon rhagor o wybodaeth am y materion a ganlyn:

·         Nifer yr achosion lle mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi talu cyfraddau uwch i feddygon teulu wneud sifftiau y tu allan i oriau ar fyr rybudd yn ystod y deuddeg mis diwethaf

·         Nifer yr hawliadau iawndal a dalwyd yn ystod y flwyddyn ariannol hon a oedd yn ymwneud â chwynion yn erbyn y gwasanaeth y tu allan i oriau

 

 

(16.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Eitem 5 a'r cyfarfod ar 25 Mawrth 2019

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(16.30 - 16.45)

5.

Gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr aelodau'r dystiolaeth a gafwyd.