Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Amseriad disgwyliedig: Cyfarfod preifat
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Yn
absenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor, cafodd Adam Price AC ei enwebu gan Rhianon
Passmore AC i'w ethol fel Cadeirydd dros dro o dan Reolau Sefydlog 17.22 a
18.6. Cytunodd y Pwyllgor ac etholwyd Adam Price AC fel Cadeirydd dros dro yn
absenoldeb Nick Ramsay AC. 1.2
Croesawodd
y Cadeirydd dros dro yr Aelodau i'r cyfarfod Pwyllgor. 1.3
Cafwyd
ymddiheuriadau gan Nick Ramsay AC a Jack Sargeant AC. |
|
(13.30 - 13.35) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y
papurau eu nodi. 2.2
Cytunwyd y byddai'r Clercod yn anfon Adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar
Wasanaethau Llywodraeth Leol i Gymunedau Gwledig ymlaen at y Pwyllgor Newid
Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig; Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a
Sgiliau a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. |
|
Gwasanaethau Llywodraeth Leol i Gymunedau: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru Dogfennau ategol: |
||
Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Gohebiaeth gan Gomisiwn y Cynulliad (20 Tachwedd 2018) Dogfennau ategol: |
||
(13.35 - 13.50) |
Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ledled Cymru: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-31-18
Papur 1 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru PAC(5)-31-18 Papur
2 – Ymateb gan Lywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Briffiodd
yr Archwilydd Cyffredinol yr Aelodau ar yr adroddiad, sef rheoli apwyntiadau
cleifion allanol ar draws Cymru. 3.2 Cytunodd
y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i'r mater hwn os na all y Pwyllgor Iechyd, Gofal
Cymdeithasol a Chwaraeon drefnu'r mater hwn yn ei raglen waith. |
|
(13.50 - 14.05) |
Gwasanaethau radioleg – adroddiad cryno: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-31-18
Papur 3 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Briffiodd
yr Archwilydd Cyffredinol yr Aelodau ar y gwasanaethau radioleg – adroddiad
cryno cenedlaethol. 4.2 Nododd
y Pwyllgor y llwybr cadarnhaol yn y maes hwn a chytunodd i ofyn am
ddiweddariadau ysgrifenedig rheolaidd gan Lywodraeth Cymru sy'n nodi'r cynnydd
wrth gyflawni'r cynllun gweithredu cenedlaethol. |
|
(14.05 - 15.00) |
Blaenraglen waith – Gwanwyn 2019 PAC(5)-31-18
Papur 4 – Blaenraglen Waith PAC(5)-31-18
Papur 5 – Gohebiaeth gan Darren Millar AC ynghylch ward Tawel Fan yn Ysbyty
Glan Clwyd (6 Tachwedd 2018) PAC(5)-31-18
Papur 6 – Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol ar y wybodaeth ddiweddaraf am y mesurau arbennig ar gyfer Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (6 Tachwedd 2018) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Nododd yr
Aelodau Flaenraglen Waith y Pwyllgor ar gyfer tymor hydref 2018 a chytuno i
wneud y canlynol: ·
Cynnal
ymchwiliad i'r Fenter Twyll Genedlaethol; ·
Gwneud
gwaith allgymorth fel rhan o'r ymchwiliad i Wasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan
i Oriau; ·
Gofyn am
ddiweddariad ar reoli iechyd meddwl ar ôl yr adolygiadau a gynhaliwyd i ward
Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd ynghyd â diweddariad ar y system cymorth ac
ymyriad ehangach a dargedir gan y llywodraeth sydd ar waith ym Mwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr; ·
Cynnal
ymchwiliad i Gyllid Busnes yn nhymor haf 2019; ·
Cynnal
ymchwiliad i drefniadau llywodraethu yn Llywodraeth Cymru yn nhymor haf 2019; a ·
Nodi y
trefnir i'r Archwilydd Cyffredinol gyhoeddi adroddiad i gostau gweithwyr
asiantaeth a locwm GIG Cymru yng ngwanwyn 2019 a, chan ddibynnu ar
ganfyddiadau'r adroddiad, gynnal ymchwiliad. |