Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 05/11/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(15.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. 1.2
Cafwyd
ymddiheuriadau gan Jack Sargeant AC. |
|
(15.15 - 15.20) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y
papurau eu nodi. |
|
Cyfoeth Naturiol Cymru: Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017-18 - Gohebiaeth gan Clare Pillman (17 Hydref 2018) Dogfennau ategol: |
||
(15.20 - 16.30) |
Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-29-18 Papur 1 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru PAC(5)-29-18
Papur 2 - Llythyr gan Bethan Sayed AC, Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y
Gymraeg a Chyfathrebu PAC(5)-29-18
Papur 3 – Papur gan Lywodraeth Cymru Andrew
Slade - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol,
Llywodraeth Cymru Jason Thomas - Cyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a
Thwristiaeth, Llywodraeth
Cymru Tim Howard - Dirprwy Gyfarwyddwr Eiddo, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cafodd
yr Aelodau dystiolaeth gan Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Economi,
Sgiliau ac Adnoddau Naturiol; Jason Thomas, Cyfarwyddwr, Diwylliant, Chwaraeon
a Thwristiaeth, a Tim Howard, Dirprwy Gyfarwyddwr Eiddo, Llywodraeth Cymru fel
rhan o'u hymchwiliad i berthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood. 3.2
Cytunodd Andrew Slade i wneud y canlynol: ·
Anfon nodyn yn esbonio cyfansoddiad y
Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau o £42 miliwn ·
Rhoi ffigurau manwl holl refeniw Stiwdio
Pinewood Cymru am y flwyddyn ariannol ddiwethaf pan fo'r sefyllfa olaf yn hysbys ·
Darparu amserlen ar gyfer adnewyddu
arfaethedig y ffermdy rhestredig Gradd II ynghyd â'r holl gostau hyd yn hyn ar
gynnal yr adeilad a chostau adnewyddu arfaethedig |
|
(16.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn: Eitemau 5 &
6 ac Eitemau 1 a 2 y cyfarfod a gynhelir ar 12 Tachwedd 2018 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd
y cynnig. |
|
(16.30 - 16.45) |
Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood: Trafod y dystiolaeth a gafwyd Cofnodion: 5.1
Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law. 5.2 Cytunodd
yr Aelodau i gyhoeddi eu canfyddiadau mewn adroddiad. |
|
(16.45 - 17.00) |
Cyfoeth Naturiol Cymru: trafod yr adroddiad drafft PAC(5)-29-18 Papur 4 – Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1
Trafododd yr Aelodau un rhan o'r adroddiad unwaith eto ac, ar ōl
ystyriaeth, bydd y Clercod yn newid geiriad a chylchredeg fersiwn ddiwygiedig
trwy e-bost i'w gytuno. |