Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/01/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(15.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AC. |
|
(15.00 - 15.05) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. 2.1 Gofynnodd Lee Waters AC am gywiro pwynt 4.2 yng nghofnodion 15 Ionawr
2018. |
|
(15.05 - 16.15) |
Y Rhaglen Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru: Sesiwn Dystiolaeth 5 Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-02-18 Papur 1 – Papur gan Lywodraeth Cymru Tracey Burke - Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus John Howells – Cyfarwyddwr, Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Derbyniodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Tracey Burke, Cyfarwyddwr
Cyffredinol Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr
Cymunedau a Threchu Tlodi, John Howells, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, ac Emma
Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Tai fel rhan o'i ymchwiliad i Raglen
Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru. 3.2 Cytunodd Tracey Burke i: · Ganfod a
wahoddwyd sefydliadau'r trydydd sector i gymryd rhan yn y gweithdai ymgysylltu
â rhanddeiliaid yn ystod datblygiad y prosiect Pathfinder · Anfon rhestr
o'r deg grant sy'n ffurfio'r grant integredig sengl arfaethedig |
|
(16.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 5 & 6 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(16.15 - 16.30) |
Y Rhaglen Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 5.1 Ystyriodd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd y dylid
paratoi adroddiad byr. 5.2 Cytunwyd y dylai'r cwestiynau nas cyrhaeddwyd ynghylch Adroddiad yr
Archwilydd Cyffredinol ar Ddigartrefedd gael eu hanfon at Lywodraeth Cymru yn
ysgrifenedig. |
|
(16.30 - 17.00) |
Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru PAC(5)-02-18 Papur 2 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor
at Ysgrifennydd Parhaol (14 Rhagfyr 2017) PAC(5)-02-18 Papur 3 – Llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd
Parhaol at Gadeirydd (16 Ionawr 2018) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Ystyriodd yr Aelodau yr ohebiaeth a ddaeth i law ar brosiect
Cylchffordd Cymru a barn y mwyafrif o'r Pwyllgor oedd cynnal sesiwn lafar
gyda'r Ysgrifennydd Parhaol ar 5 Chwefror. |