Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/09/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiant

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Gareth Bennett AC, Adam Price AC a Jenny Rathbone AC.

 

(13.15 - 14.45)

2.

Maes Awyr Caerdydd: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

PAC(5)-22-19 Papur 1 – Llywodraeth Cymru

PAC(5)-22-19 Papur 2 – Datganiad Ysgrifenedig Llywodraeth Cymru: Ymateb y DU i adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig ar Ddatganoli Toll Teithwyr Awyr i Gymru (6 Medi 2019)

 

Andrew Slade – Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru

Simon Jones - Cyfarwyddwr, Seilwaith Economaidd, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, a Simon Jones, Cyfarwyddwr, Seilwaith Economaidd, Llywodraeth Cymru ar Faes Awyr Caerdydd.

2.1 Datganodd Simon Jones fuddiant fel Cadeirydd Holdco.

2.3 Cytunodd Andrew Slade i anfon gwybodaeth ychwanegol ynghylch:

·         Nifer y llwybrau a’r cyrchfannau yr oedd Thomas Cook yn gweithredu o Faes Awyr Caerdydd;

·         Pa ddata y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gyhoeddi mewn perthynas â gwerth cymhorthdal PSO, nifer y teithwyr ac asesiad gwerth am arian y gwasanaeth ar gyfer y contractau blaenorol ar gyfer y Gwasanaeth Awyr o fewn Cymru; a

·         Chadarnhau a yw nifer swyddogion Llu’r Ffiniau wedi cynyddu yn y maes awyr fel rhan o’r gwaith cynllunio wrth gefn at Brexit.

2.4 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad ar nifer o faterion perfformiad ariannol yn ymwneud â Maes Awyr Caerdydd.

 

(14.45 - 15.00)

3.

Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor

PAC(5)-22-19 Papur 3 – Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor a chytunodd i ofyn am eglurhad ar Argymhelliad 4 ynghyd â dyraniad cyllid y bydd pob bwrdd iechyd yn ei gael er mwyn gwella eu targedau cleifion allanol.

 

(15.00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitem 5

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.00 - 15.30)

5.

Maes Awyr Caerdydd: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd y byddai ymweliad â’r maes awyr yn fuddiol.