Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 29/01/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | |
---|---|---|---|
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC
ac Adam Price AC. Ni chafwyd dirprwyon. 1.3 Croesawodd y
Cadeirydd yr ymwelwyr o Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Bermuda a oedd yn arsylwi
ar y sesiwn. |
||
Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru: Llythyr gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd (17 Ionawr 2018) Dogfennau ategol: |
|||
Yr Heriau Llywodraethu yn sgil gwasanaethau anuniongyrchol a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (17 Ionawr 2018) Dogfennau ategol: |
|||
(14.00 - 14.05) |
Papur(au) i'w nodi: Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
||
(14.05 - 15.20) |
Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: Sesiwn Dystiolaeth 1 Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad PAC(5)-03-18 Papur 1 - Ymateb i'r ymgynghoriad gan Gomisiynydd Plant Cymru Sally Holland - Comisiynydd Plant Cymru Rachel Thomas - Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus, Swyddfa Comisiynydd
Plant Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sally Holland, Comisiynydd Plant
Cymru a Rachel Thomas, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus, Swyddfa
Comisiynydd Plant Cymru fel rhan o'i ymchwiliad i blant a phobl ifanc sydd wedi
bod mewn gofal. |
||
(15.30 - 16.30) |
Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: Sesiwn Dystiolaeth 2 PAC(5)-03-18 Papur 2 - Ymateb i'r ymgynghoriad gan Benaethiaid Gwasanaethau
Plant Cymru Gyfan
Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Irfan Alam, Cyfarwyddwr Cynorthwyol
Gwasanaethau Plant, Cyngor Dinas Caerdydd; Kate Devonport, Pennaeth
Gwasanaethau Plant, Teuluoedd a Diogelu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy; Sally
Jenkins, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, Cyngor Dinas Casnewydd a
Gareth Jenkins, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Plant, Cyngor Bwrdeistref
Sirol Caerffili fel rhan o'i ymchwiliad i blant a phobl ifanc sydd wedi bod
mewn gofal. |
||
(16.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 6 Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
||
(16.30 - 16.45) |
Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 6.1 Trafodwyd y dystiolaeth. |