Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/10/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.30-15.10) |
Awdurdod Cyllid Cymru: cyfrifon blynyddol 2019 i 2020 - Sesiwn briffio technegol Dyfed Alsop, Prif Weithredwr, Awdurdod Cyllid Cymru Rebecca Godfrey, Prif Swyddog Strategaeth, Awdurdod
Cyllid Cymru Sam Cairns, Prif Swyddog Gweithredu, Awdurdod Cyllid
Cymru Adam Al-Nuaimi, Pennaeth
Dadansoddi Data, Awdurdod Cyllid Cymru Cofnodion: 1.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn briffio technegol ar
Adroddiad Perfformiad Awdurdod Cyllid Cymru 2019 - 2020 gan Dyfed Alsop, Prif Weithredwr;
Rebecca Godfrey, Prif Swyddog Strategaeth; Sam Cairns, Swyddog Gweithredu; ac
Adam Al-Nuami, Pennaeth Dadansoddi Data. |
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir
y Pwyllgor Cyllid. 2.1.Cafwyd ymddiheuriad gan Mike Hedges AS. |
||
(15.20) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2020 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
PTN 1 - Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) - 2 Hydref 2020 Dogfennau ategol: |
||
(15.20-16.00) |
Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol: Sesiwn dystiolaeth 3 Dr Ed Poole, Uwch
Ddarlithydd, Canolfan Llywodraethiant Cymru Guto Ifan,
Cymrawd Ymchwil, Canolfan Llywodraethiant Cymru Papurau
ategol: Papur briffio Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Ed Poole, Uwch
Ddarlithydd, Canolfan Llywodraethiant Cymru a Guto Ifan, Cydymaith Ymchwil,
Canolfan Llywodraethiant Cymru fel rhan o’i ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru
2014 a’r Fframwaith Cyllidol. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
||
(16.00-16.20) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft 2021-22 Comisiwn y Senedd Trafod yr adroddiad drafft Papurau
ategol: FIN(5)-19-20 P1 –
Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft yn amodol
ar fân newidiadau. |
|
(16.20-16.30) |
Trafod gwybodaeth gan Gyllid a Thollau EM mewn perthynas â Chyfraddau Treth Incwm Cymru Cofnodion: 7.1 Nododd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol Cyllid a
Thollau EM ar Gyfraddau Treth Incwm Cymru a’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth |
|
(16.30-16.40) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21: Trafod y dull o weithredu Papurau
ategol: FIN(5)-19-20 P2 -
Papur ar y broses o graffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor sut y bydd yn craffu ar Gyllideb
Ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21. |
|
(16.40-16.50) |
Trafod Bil y Farchnad Fewnol Papurau
ategol: FIN(5)19-20 P3 - Y
Gwasanaeth Ymchwil: Bil Marchnad Fewnol y DU a’r Goblygiadau i Gyllid yr UE FIN(5)19-20 P4 - Llythyr
gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad: Craffu ar
drefniadau ymadael â’r UE – 7 Hydref 2020 FIN(5)19-20 P5 - Llythyr
gan y Pwyllgor Cyllid at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a
Chyfansoddiad a Chadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth
Ychwanegol: Craffu ar drefniadau ymadael â’r UE – 24 Medi 2020 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Trafododd y Pwyllgor bapur y Gwasanaeth Ymchwil a
gohebiaeth ynghylch Bil y Farchnad Fewnol. 9.2 Cytunodd y Pwyllgor y bydd y Cadeirydd, Llyr Gruffydd
MS ac Alun Davies AS yn mynd i sesiwn y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad ar 2 Tachwedd, i gael tystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol ar
drefniadau ymadael â’r UE. |