Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/11/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1     Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2     Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore a Mark Reckless.

 

(09:30)

2.

Papur(au) i'w nodi

·           Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2019

·           Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2019

·           Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2019

·           Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Nodwyd y cofnodion a'r papurau.

 

2.1

Llythyr gan Suzy Davies AC mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar graffu ar gyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2020-21

Dogfennau ategol:

2.2

Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: proses gyllidebol Seland Newydd

Dogfennau ategol:

2.3

Llythyr gan y Gweinidog Cyllid at y Llywydd: Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2019

Dogfennau ategol:

2.4

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru)

Dogfennau ategol:

(09:30)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1     Derbyniwyd y cynnig.

 

 

(09:30-10:30)

4.

Brîff technegol: Rhagolygon ar gyfer trethi Cymru

Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru

Julian Revell, Pennaeth Dadansoddiad Cyllidol, Trysorlys Cymru

 

Papur 1 – Papur cefndir

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1     Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio dechnegol ar y rhagolygon ar gyfer trethi Cymru gan Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru, a Julian Revell, Pennaeth Dadansoddiad Cyllidol, Trysorlys Cymru.

 

(10.40-11.40)

5.

Sesiwn friffio breifat: Gwaith monitro Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ar gyllideb Llywodraeth Cymru - y canfyddiadau allweddol hyd yn hyn

Cathy Madge, Arweinydd Ysgogi Newid, Swyddfa'r Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Eurgain Powell, Ysgogwr Newid, Swyddfa'r Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

 

Papur 2 - Papur briffio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1     Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio breifat gan Cathy Madge, Arweinydd Ysgogi Newid ac Eurgain Powell, Ysgogwr Newid, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, ar waith monitro Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru o gyllideb Llywodraeth Cymru.

 

 

(11.40-12.00)

6.

Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2018-19 a’r Amcangyfrif ar gyfer 2020-21: Trafod yr adroddiad drafft

Papur 3 – Papur eglurhaol

Papur 4 – Gohebiaeth ag Archwilydd Cyffredinol Cymru a Chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru

Papur 5 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1     Cymeradwyodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.