Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/01/2021 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.

 

(09.30)

2.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

PTN 1 – Llythyr gan y Gweinidog Addysg: Ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) – 11 Ionawr 2021

Dogfennau ategol:

2.2

PTN2 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd – Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2021 – 7 Ionawr 2021

Dogfennau ategol:

(09.30-10.30)

3.

Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22: Sesiwn dystiolaeth 5

Steffan Evans, Swyddog Polisi ac Ymchwil, Sefydliad Bevan

Gemma Schwendel, Uwch Ddadansoddwr, Sefydliad Joseph Rowntree

 

Papurau ategol:

FIN(5)-03-21 P1 – Tystiolaeth ysgrifenedig: Sefydliad Bevan

FIN(5)-03-21 P2 – Papur briffio: 'Tlodi yng Nghymru 2020'

Briff ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Steffan Evans, Swyddog Polisi ac Ymchwil, Sefydliad Bevan; a Gemma Schwendel, Uwch Ddadansoddwr, Sefydliad Joseph Rowntree ar Graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22.

 

 

(10.40-11.40)

4.

Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22: Sesiwn dystiolaeth 6

Andrew Campbell, Cadeirydd, Cynghrair Twristiaeth Cymru

Ian Price, Cyfarwyddwr, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru

Dr Llŷr ap Gareth, Uwch Gynghorydd Polisi, Ffederasiwn Busnesau Bach yng Nghymru

 

Papurau ategol:

FIN(5)-03-21 P3 – Tystiolaeth ysgrifenedig: Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru

Briff ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Andrew Campbell, Cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru; Ian Price, Cyfarwyddwr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru (CBI Cymru); a Dr Llyr ap Gareth, Uwch Gynghorydd Polisi, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru (FSB Cymru) ar Graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22.

 

(11.40)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.40-11.50)

6.

Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11.50-12.05)

7.

Ceisiadau o ran Cyllideb Atodol 2020-21 gan Gyrff a Ariennir yn Uniongyrchol

Papurau ategol:

FIN(5)-03-21 P4 – Papur blaen

FIN(5)-03-21 P5 – Cyllideb Comisiwn y Senedd 2020-21

FIN(5)-03-21 P6 – Amcangyfrif Atodol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2020-21

FIN(5)-03-21 P7 – Amcangyfrif Atodol Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2020-21

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd a chymeradwyodd y Pwyllgor yr amrywiadau arfaethedig i gyllidebau 2020-21 ar gyfer Archwilio Cymru, Comisiwn y Senedd ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Archwilio Cymru i ofyn am ragor o fanylion am gost ychwanegol gwyliau blynyddol cronedig staff.

 

(12.05-12.15)

8.

Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.