Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/07/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mark Reckless AS.

 

(14.00)

2.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Mehefin 2020

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau.

 

2.1

PTN1 - Llythyr gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu at Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Cyllideb Atodol Gyntaf 2020-21 – 17 Mehefin 2020

Dogfennau ategol:

2.2

PTN2 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd – Cyfarfodydd rhwng y pedwar Gweinidog Cyllid – 19 Mehefin 2020

Dogfennau ategol:

2.3

PTN3 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd – Cyllideb Atodol Gyntaf 2020-21: Camau gweithredu o'r cyfarfod ar 4 Mehefin 2020 – 22 Mehefin 2020

Dogfennau ategol:

2.4

PTN4 – Llythyr gan y Gweinidog Addysg – Mwy o gyllid at ddibenion Anghenion Dysgu Ychwanegol ar gyfer y sector Addysg Uwch – 23 Mehefin 2020

Dogfennau ategol:

2.5

PTN 5 - Llythyr gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd – Polisi buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit – 25 Mehefin 2020

Dogfennau ategol:

2.6

PTN 6 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd – Cronfa Wrth Gefn y DU – 3 Gorffennaf 2020

Dogfennau ategol:

2.7

PTN 7 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd at Ganghellor y Trysorlys: Diweddariad economaidd yr haf - 3 Gorffennaf 2020

Dogfennau ategol:

2.8

PTN 8 - Llythyr gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru at Ganghellor y Trysorlys: Y Cynllun Cadw Swyddi a’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig - 4 Mehefin 2020

Dogfennau ategol:

2.9

PTN9 - Llythyr gan Gomisiwn y Senedd: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Prosiect Meddalwedd Deddfwriaeth - 7 Gorffennaf 2020

Dogfennau ategol:

(14.05)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 4, 5, 6, 7, 8 a 10

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(14.05-14.20)

4.

Ymchwiliad i broses cyllideb ddeddfwriaethol: Trafod yr adroddiad drafft

Papur ategol:

Papur 1 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.

 

(14.20-14.30)

5.

Penodi Cadeirydd ac Aelodau Anweithredol Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru: Trafod yr adroddiad drafft

Papurau ategol:

Papur 2 – Adroddiad drafft

Papur 3 - Llythyr gan y Prif Weinidog - Trefniadau tâl ar gyfer Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru - 22 Mehefin 2020

Papur 4 - Llythyr gan Gyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, Llywodraeth Cymru - Trefniadau tâl ar gyfer Aelodau Anweithredol Swyddfa Archwilio Cymru - 25 Mehefin 2020

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.

 

(14.30-14.40)

6.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22: Dull o gynnal gwaith craffu

Papurau ategol:

Papur 5 – Dull o gynnal y gwaith craffu

Papur 6 - Llythyr ymgynghori drafft

Papur 7 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Amseriad Cyllideb Ddrafft 2021-22 - 2 Gorffennaf 2020

Papur 8 - Llythyr gan y Pwyllgor Busnes - Amserlen arfaethedig ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2021-22– 8 Gorffennaf 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o gynnal gwaith craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, sydd ar y gweill, ar gyfer 2021-22.

 

(14.40-14.50)

7.

Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor

Papur ategol:

Papur 9 – Blaenraglen waith: yr hydref

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref.

 

(14.50-15.00)

8.

Trafod ymatebion gan Gyrff a Ariennir yn Uniongyrchol: Effaith ariannol pandemig COVID-19

Papurau ategol:

Papur 10 - Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - 3 Gorffennaf 2020

Papur 11 - Llythyr gan Gomisiwn y Senedd - 7 Gorffennaf 2020

Papur 12 - Llythyr gan Archwilio Cymru - 7 Gorffennaf 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y cyrff a ariennir yn uniongyrchol.

 

(15.15-16.15)

9.

COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda’r Gwir Anrh. Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Rt. Hon Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Geth Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyfansoddiad, Swyddfa Cymru

 

Papurau ategol:

Papur 13  - Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru - COVID-19: Cefnogaeth i Gymru - 9 Ebrill 2020

Briff Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gwir Anrh. Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Geth Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr y Cyfansoddiad, Swyddfa Cymru ar yr ymateb ariannol i COVID-19.

 

9.2 Gofynnodd y Pwyllgor am fanylion cyfrifiadau Trysorlys EM o ran y cyllid gwerth £500 miliwn mewn ymateb i COVID-19 ar gyfer Cymru, a gyhoeddwyd gan y Canghellor yn Niweddariad Economaidd yr Haf.

 

(16.15-16.25)

10.

COVID-19: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.