Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/10/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Agorodd y Clerc y cyfarfod a galwodd am enwebiadau i ethol cadeirydd dros dro
ar gyfer y cyfarfod hwn a hyd nes yr etholir cadeirydd parhaol. 1.2
Enwebwyd Llyr Gruffydd gan Mike Hedges, ac fe'i hetholwyd yn gadeirydd dros
dro. 1.3
Croesawodd y Cadeirydd dros dro yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.4 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC. Roedd Llyr Gruffydd yn bresennol ar ei
ran. 1.5 Roedd
Helen Mary Jones AC yn bresennol yn y cyfarfod gyda chaniatâd y Cadeirydd dros
dro, yn unol â Rheol Sefydlog 17.49. |
|
(09.00) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cafodd
y papurau eu nodi. |
|
(09.00-10.00) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2019-20: Sesiwn dystiolaeth Suzy Davies AC,
Comisiynydd ar gyfer y Gyllideb a Llywodraethu Manon Antoniazzi, Prif
Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Nia Morgan, Cyfarwyddwr
Cyllid Papur 1 – Cyllideb
Ddrafft Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2019-20 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Suzy Davies AC, sef y Comisiynydd dros y
Gyllideb a Llywodraethiant; Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y
Cynulliad; a Nia Morgan, y Cyfarwyddwr Cyllid ynghylch Cyllideb Ddrafft
Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2019-20. 3.2
Cytunodd Comisiwn y Cynulliad i ysgrifennu at y Pwyllgor i ddarparu: ·
rhagor o
fanylion ar brosiectau penodol sy'n flaenoriaeth ar gyfer 2019-20; a ·
ffigurau
ar gyfer absenoldebau salwch ers mis Mawrth 2018. |
|
(10.00-11.00) |
Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru): Sesiwn dystiolaeth Rebecca
Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio Emma
Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru Huw
Charles, Rheolwr y Bil, Llywodraeth Cymru Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac
Adfywio; Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Adran Polisi Tai, Llywodraeth
Cymru; a Huw Charles, Rheolwr Bil, Llywodraeth Cymru ynghylch Bil Rhentu
Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru). |
|
(11.00-12.00) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20: Sesiwn dystiolaeth 1 (Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid) Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru Margaret Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr
Cyllidebu Strategol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet
dros Gyllid; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru, Llywodraeth Cymru;
a Margaret Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllidebu Strategol, Llywodraeth Cymru
ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20. |
|
(12.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 6.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12.00-12.10) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 7.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(12.10-12.20) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 8.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(12.20-12.30) |
Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 9.1
Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(12:30-12:40) |
Gwasanaethau Archwilio Allanol i Swyddfa Archwilio Cymru Laurie Davies, Pennaeth Gwasanaethau Busnes, Swyddfa
Archwilio Cymru Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol,
Swyddfa Archwilio Cymru Papur 2 - Gwasanaethau Archwilio Allanol i Swyddfa
Archwilio Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 10.1
Trafododd y Pwyllgor y papur gan Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch caffael
gwasanaethau archwilio allanol i Swyddfa Archwilio Cymru a chytunodd ar y
cyflenwr a argymhellir, sef RSM Tenon. |