Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

08.45-09.00 Rhag-gyfarfod anffurfiol

Trawsgrifiad

(9.00)

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr aelodau i’r cyfarfod.

 

(9.00)

3.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nodwyd y papur.

 

(09.00-10.00)

4.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Amcangyfrif o incwm a threuliau ar gyfer 2017-18: Sesiwn dystiolaeth

Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

David Meaden, Cyfrifydd Ariannol

Susan Hudson – Rheolwr Polisi a Chyfathrebu

 

Papur 1 - Amcangyfrif Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer y Flwyddyn Ariannol 2017-18

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar Amcangyfrif o Incwm a Threuliau 2017-18 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

4.2 Cytunodd yr Ombwdsmon i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor ar feincnodi yn erbyn cyrff eraill tebyg a chynlluniau ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus.

 

(10.00-11.00)

5.

Cyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2017-18: Sesiwn dystiolaeth

Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

Suzy Davies AC, Comisiynydd y Gyllideb a Llywodraethu

Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid

 

Papur 2 - Cyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2017-18

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Craffodd y Pwyllgor ar gyllideb ddrafft 2017-2018 Comisiwn y Cynulliad.

 

5.2 Cytunodd Comisiwn y Cynulliad i ddarparu:

 

        rhagor o wybodaeth am fuddsoddiad TGCh yn y dyfodol

        manylion am faint a wariwyd ar adnewyddu TGCh yn y Siambr

        nodyn yn egluro'r arbedion o 12% mewn TGCh

        esboniad dros y cynnydd mewn costau TGCh yn ymwneud â ‘Refeniw a Phrynu defnyddiau traul’

        y rhesymau dros y lleihad yn y gyllideb yn 2017-18 ar gyfer ‘Cyflogau ac argostau Aelodau’r Cynulliad’

        rhestr o'r 14 o ysgolion na wnaeth fanteisio ar y cyfle i ymgysylltu â'r Cynulliad

 

 

(11.00)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar gynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y sesiwn ac o eitem 1 yn y sesiwn nesaf.

 

(11.15-11.30)

7.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Amcangyfrif o incwm a threuliau ar gyfer 2017-18: Ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11.30-11.45)

8.

Cyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2017-18: Ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11.45-12.30)

9.

Trosolwg o'r broses gyllidebu

Cofnodion:

9.1 Cafodd y Pwyllgor bapur briffio am broses y gyllideb.